Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ysgolion Sir y Fflint yn dathlu Canlyniadau Safon Uwch

Published: 10/08/2021

 Mae myfyrwyr chweched dosbarth mewn ysgolion yn Sir y Fflint yn dathlu  heddiw wrth i ddosbarth 2021 gael eu canlyniadau Safon Uwch.  

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint ac Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid:

“Mae’r Cyngor yn llongyfarch yr holl fyfyrwyr ôl 16 yn Sir y Fflint am eu gwaith caled i gyflawni’r graddau a gawsant yr haf hwn. 

“Bu proses gadarn ar draws y system i sicrhau bod myfyrwyr yn cael y cymwysterau maent yn eu haeddu ac i’w galluogi i symud i gam nesaf eu gyrfa.

“Mae'r bobl ifanc hyn wedi gweithio'n galed iawn i ymateb i'r heriau a wynebwyd trwy COVID ac rwyf wedi fy ysbrydoli gan y gwytnwch a’r ymroddiad a ddangoswyd. Dylen nhw a’u teuluoedd fod yn falch iawn.

“Rwy’n falch iawn dros bob un ohonyn nhw ac yn dymuno pob llwyddiant iddyn nhw ar y llwybrau maen nhw wedi'u dewis ar gyfer y dyfodol."

Dywedodd y Prif Swyddog Addysg ac Ieuenctid, Claire Homard:

“Mae ein dysgwyr wedi gallu parhau gyda’u hastudiaethau dros y 12 mis diwethaf, er gwaethaf yr heriau a gyflwynwyd gan y pandemig, gyda chefnogaeth staff ysgol ymroddgar a’r defnydd arloesol o dechnegol ddysgu.

“Hoffwn fynegi fy niolch i rieni a gofalwyr am y gefnogaeth a’r arweiniad a roddwyd i’w plant.

“Hoffwn dalu teyrnged i ymrwymiad ein hysgolion sydd wedi gweithio i sicrhau y gallent ymateb i’r broses newydd eleni o Raddau a Bennir gan Ganolfannau. Rwy’n gwybod y bydd ein staff ysgol yn parhau i ddarparu cymorth a chyngor i’n dysgwyr dros y diwrnodau a'r wythnosau nesaf wrth iddynt symud i’w cyrchfannau newydd. 

"Anfonaf fy llongyfarchiadau i Ddosbarth 2021. Dymunwn bob llwyddiant iddynt wrth iddynt gymryd heriau newydd, un ai prifysgol, hyfforddiant neu fyd gwaith."