Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ysgolion Sir y Fflint yn dathlu Canlyniadau TGAU

Published: 12/08/2021

Mae myfyrwyr o bob rhan o Sir y Fflint yn dathlu heddiw wrth iddyn nhw dderbyn eu canlyniadau TGAU. 

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint ac Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid:

“Mae’r Cyngor yn falch iawn o’n holl ddisgyblion blwyddyn 11 am wneud yr holl waith caled i gael y graddau maen nhw wedi eu cael yr haf hwn. Mewn blwyddyn o heriau na welwyd mo’u tebyg o’r blaen, maen nhw wedi gweithio’n galed i gyrraedd eu nod. Rwy’n falch iawn ohonyn nhw am ddangos cymaint o wytnwch ac ymroddiad. 

“Mae proses gadarn yn ei lle ar draws y system i wneud yn siwr fod myfyrwyr yn cael y cymwysterau maen nhw’n eu haeddu ac i’w galluogi i symud ymlaen i’r cam nesaf yn eu gyrfa.

“Rwy’n dymuno pob llwyddiant iddyn nhw yn eu camau nesaf ac rwy’n eu hannog i barhau i weithio’n galed ac anelu’n uchel.” 

Dywedodd y Prif Swyddog Addysg ac Ieuenctid, Claire Homard:

“Mae ein dysgwyr wedi parhau i weithio’n galed dros y deuddeg mis diwethaf, er gwaethaf yr heriau roedden nhw’n eu hwynebu gyda COVID. Mae hon wedi bod yn flwyddyn gwbl unigryw i’n dysgwyr!

“Hoffwn ddiolch i rieni a gofalwyr am y gefnogaeth a’r arweiniad maen nhw wedi eu rhoi i’w plant, yn enwedig yn ystod y cyfnodau dysgu o bell neu ddysgu cyfunol. Rwy’n gwybod bod y teuluoedd wedi ymgysylltu’n gadarnhaol iawn â’n hysgolion wrth ymateb i’r ffyrdd newydd hyn o weithio. 

“Hoffwn hefyd ddiolch i staff ein hysgolion sydd wedi gweithio’n ddiflino drwy’r flwyddyn i sicrhau bod ein disgyblion yn cael pob cyfle i lwyddo. Yn benodol, maen nhw wedi dangos ymroddiad gwych i weithredu’r broses newydd eleni i osod Graddau a Bennir gan Ganolfannau. 

“Mae’n fraint i mi allu llongyfarch ein holl fyfyrwyr TGAU. Dylen nhw fod yn hynod falch o’u llwyddiannau. Rwy’n dymuno pob llwyddiant iddyn nhw wrth iddyn nhw ymgymryd â’u heriau newydd.”