Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyhoeddi Enillwyr yn 10fed pen-blwydd Gwobrau Busnes Sir y Fflint

Published: 24/10/2016

Mae Gwobrau Busnes Sir y Fflint, sydd bellach yn ei ddegfed flwyddyn, yn cydnabod rhagoriaeth a pherfformiad rhagorol busnesau ar draws y sir. Cafodd enillwyr y deg categori eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo tei du arbennig yn Neuadd Sychdyn, Llaneurgain nos Wener 21 Hydref. Gyda chynulleidfa o dros 240 o bobl fusnes dylanwadol, bu cwmnïau Sir y Fflint yn dathlu eu llwyddiannau. Roedd hin noson wych ar gyfer Leyla Edwards (KK Finefoods Plc) a enillodd dau or prif wobrau - Person Busnes y Flwyddyn a Gwobr Entrepreneur. Casglodd Ethan Davies (Electroimpact UK Ltd) Wobr Prentisiaeth y Flwyddyn. Enillydd gwobr Busnes y Flwyddyn gyda dros 10 o weithwyr oedd Anwyl Group, tra enillodd MCPC Systems y wobr Busnes y Flwyddyn gyda hyd at 10 o weithwyr. Enillydd Gwobr Busnes I Weithio ynddi oedd DRB Group, Mancoed VM enillodd Gwbor ir Cwmni Start-up mwyaf Mentrus ac enillodd Hannaman Material Handling Wobr ir Busnes Mwyaf Gyfrifol yn Gymdeithasol. Aeth y Technoleg, Arloesi a Gwobr Menter i LDF. Yn ogystal, cyflwynwyd gwobr newydd, Gwobr Etifeddiaeth Busnes, gan y Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith Ken Skates, AC i Rt Hon. Lord Barry Jones i gydnabod ei wasanaethau gydol oes ragorol i fusnes ar economi. Dywedodd Ken Skates: “Mae’n bleser gen i fynychu Gwobrau Busnes Sir y Fflint eleni, ac mae’n anrhydedd gen i gyflwyno’r wobr Etifeddiaeth newydd ir Arglwydd Barry Jones. “Ni allaf feddwl am unrhyw un gwell, neun fwy haeddiannol, i dderbyn y wobr syn cydnabod gwaith diflino Arglwydd Barry Jones yn cefnogi twf economaidd ar draws y rhanbarth. Mae wedi bod yn eiriolwr gwirioneddol ar gyfer anghenion a chyfleoedd yn y rhan yma o Gymru, gan gefnogi buddsoddiad mewn busnes a thwf swyddi ar bob cyfle, ac mae’n achub ar bob cyfle i hyrwyddo Sir y Fflint a Gogledd Ddwyrain Cymru lle bynnag y maen mynd. “Mae’n addas felly y bydd wobr hon yn cael ei galw’n Wobr Etifeddiaeth Arglwydd Barry Jones, a bydd yn cael ei chyflwyno bob blwyddyn i rywun sydd wedi gwneud cyfraniad parhaol i dwf economaidd yn ardal Sir y Fflint. Dywedodd Derek Butler, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Ddatblygu Economaidd: “Hoffwn longyfarch yr holl enillwyr, yn ein 10fed blwyddyn, roedd y gystadleuaeth yn ffyrnig a chafodd y beirniaid amser go anodd yn ceisio dewis enillydd ym mhob categori. “Hoffwn hefyd ddiolch in noddwyr, AGS Security Systems, sydd wedi gwneud y digwyddiad gwych hwn yn bosibl unwaith eto. Maen wych bod busnesau yn Sir y Fflint yn gweld gwerth yn y gwobrau ac yn awyddus i gefnogi eu gilydd, a gydan gilydd, byddwn yn mynd o nerth i nerth yn y blynyddoedd i ddod. “ Llongyfarchodd Jonathan Turner, Rheolwr Gyfarwyddwr AGS Security Systems, pawb a gyrhaeddodd y rownd derfynol, gan ddweud, Maen rhoi boddhad mawr i AGS Security Systems ddychwelyd ir llwyfan yn brif noddwr eto eleni. Nid yw amrywiaeth a brwdfrydedd busnesau Sir y Fflint byth yn methu â fy syfrdanu ac mae safon y busnes yn Sir y Fflint yn fy nghyffroi bob tro. “Maer Gwobrau hyn yn helpu i gydnabod gwir dalent a pherfformiad rhagorol sydd gennym ar garreg ein drws, mae angen i ni feddwl am y genhedlaeth nesaf ac addysg ein cydweithwyr – mae pob un ohonom yn gyfrifol am greu entrepreneuriaid y dyfodol.” Dyma enillwyr a noddwyr y deg categori: Gwobr Noddwr Buddugol Prentisiaeth Coleg Cambria Ethan Davies (Electroimpact UK Ltd) Gwobr Person Busnes y Flwyddyn B2 Business Systems Leyla Edwards – KK Finefoods Plc Gwobr Busnes y Flwyddyn gyda dros 10 o weithwyr FfBB Anwyl Group Gwobr Busnes y Flwyddyn gyda hyd at 10 o weithwyr Edge Transport MCPC Systems Gwobr Busnes I Weithio ynddi Wagtail UK DRB Group Gwobr Entrepreneur Pochin Leyla Edwards - KK Fine Foods Plc Gwobr Etifeddiaeth Cyngor Sir y Fflint The Rt Hon. the Lord Jones Gwbor ir Cwmni Start-up mwyaf Mentrus DSG Mancoed VM Gwobr ir Busnes Mwyaf Gyfrifol yn Gymdeithasol Wates Living Space Hannaman Material Handling Technoleg, Arloesi a Gwobr Menter Prifysgol Glyndwr LDF I gael rhagor o wybodaeth am Wobrau Busnes Sir y Fflitn, ffoniwch For Kate Catherall ar 01352 703221 neu ewch i www.wythnosfusnessiryfflint.co.uk