Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ailgyflwyno gorfodaeth gwastraff ochr y ffordd

Published: 01/09/2021

Black bin and side waste.jpgBydd gorfodaeth gwastraff ar ochr y ffordd ar gasgliadau gwastraff ymyl palmant yn cael ei ailgyflwyno wythnos yn dechrau 6 Medi 2021 i’r aelwydydd hynny sydd yn gadael bagiau ychwanegol o wastraff allan ar gyfer eu casglu ynghyd â’r biniau olwynion arferol.

Ers dechrau’r pandemig, mae camau gorfodi ar gyfer gadael gwastraff “ochr” ychwanegol ger y bin du wedi cael ei atal dros dro yn sgil risgiau iechyd a diogelwch i’n tîm gorfodi.  

Yn ystod yr amser hwn, rydym wedi casglu 3,000 tunnell ychwanegol o wastraff gweddilliol o eiddo preswyl, cynnydd o 12% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol, sydd wedi cael effaith negyddol ar ein perfformiad ailgylchu. 

O ganlyniad i hynny, byddwn yn ailgyflwyno gorfodaeth gwastraff ochr ar gasgliadau gwastraff gweddillol ymyl palmant o Fedi 2021. Mae hyn yn golygu, os ydych yn gadael mwy o wastraff yn ychwanegol at eich bin olwynion, ni fydd ein criwiau yn casglu’r gwastraff ychwanegol. 

Dylai mwyafrif yr aelwydydd allu rhoi eu holl wastraff gweddillol (sef gwastraff nad ellir ei ailgylchu) yn eu bin olwynion, yn arbennig os ydynt yn defnyddio’r gwasanaeth casglu ailgylchu ymyl palmant. 

Rydym yn casglu ailgylchu bob wythnos ac nid oes cyfyngiad ar y swm o ailgylchu y gall drigolion roi allan ar gyfer eu casglu, felly os oes angen bagiau neu focsys ychwanegol, gall y rhain gael eu darparu yn ôl yr angen.

Nid yw lleiafrif o aelwydydd yn gwneud defnydd o’r gwasanaeth ailgylchu sy’n annerbyniol am nifer o resymau, gan gynnwys:

• Y problemau amgylcheddol a achosir gan wastraff ochr pan fydd y bagiau yn rhwygo gan achosi gwastraff i dasgu ar y strydoedd;

• Colli adnoddau gwerthfawr a ellir eu hailgylchu i wneud cynnyrch newydd;

• Y gost ariannol o waredu gwastraff gweddilliol a cholli incwm posibl o werthu deunyddiau a ellir eu hailgylchu

Dywedodd Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd Sir y Fflint, y Cynghorydd Glyn Banks:

“Trwy gydol y blynyddoedd, mae mwyafrif o drigolion Sir y Fflint wedi gwneud defnydd llawn o’r gwasanaethau ailgylchu a ddarperir ar ymyl palmant a diolchwn iddynt am hynny.  Fodd bynnag, nid yw lleiafrif bychan yn ailgylchu, ac rydym eisiau estyn allan i’r unigolion hyn a’u cynorthwyo i wneud y dewisiadau cywir wrth waredu eu gwastraff cartref.

“Mae’r broses o orfodaeth gwastraff ochr yn ddull tri cham gyda’r pwyslais dechreuol ar hysbysu ac addysgu trigolion ar y ffordd gywir o gyflwyno eu gwastraff ac ailgylchu. Bydd camau ffurfiol ar gyfer anghydffurfiaeth parhaus yn cael eu cymryd pan na fydd unrhyw welliannau ar ôl y cam cyntaf.

“Mae tystiolaeth wedi dangos i ni fod y cam addysgu yn cael effaith sylweddol ar arferion gwaredu gwastraff trigolion ac felly yn gwella ein perfformiad ailgylchu.”

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ar y broses gwastraff ochr a gwybodaeth ychwanegol a fydd yn cynorthwyo trigolion gydag ailgylchu eu gwastraff cartref, ar wefan y Cyngor