Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


 Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol

Published: 07/09/2021

Social Services Annual report Cym.JPGMae Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint yn falch o gyhoeddi eu hadroddiad blynyddol diweddaraf.

Mae gan y Cyngor lawer i’w ddathlu eleni, yn cynnwys: 

  • Y dull cymunedol a gymerwyd gyda phartneriaid trydydd sector i ddarparu ymateb cydlynol i’r pandemig yn lleol
  • NEWCES yn sefydlu canolbwynt Cyfarpar Diogelu Personol, gan ddosbarthu Cyfarpar Diogelu Personol i dros 80 o leoliadau ar draws y sir
  • Gwaith partneriaeth rhwng staff y Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd yr Amgylchedd i helpu darparwyr gofal cymdeithasol a effeithiwyd gan Covid-19
  • Gweinyddu cymorth ariannol Cronfa Galedi Llywodraeth Cymru i wasanaethau gofal cymdeithasol
  • Gweithredu Meicro-Ofal, gyda 12 o ofalwyr meicro yn darparu gwasanaethau yn y sir 
  • Parhau i ddatblygu camau gweithredu i gefnogi pobl sy’n byw gyda dementia 
  • Dangos ein hymrwymiad i ddod â thrais dynion yn erbyn merched i ben drwy dderbyn achrediad Rhuban Gwyn.
  • Derbyn cydnabyddiaeth o’n Gwasanaethau Anabledd Dysgu yng Ngwobrau Gofal Cymdeithasol Cymru a chyrraedd rhestr fer Gwobrau APSE
  • Cyflogi dau unigolyn graddedig, pobl ifanc gydag Anableddau Dysgu, o raglen prosiect SEARCH, yn ein gwasanaethau, gydag eraill yn derbyn gwaith â thâl
  • Gweithredu Model Cefnogi Gofalwyr Maeth – Mockingbird
  • Cynnydd estyniadau Marleyfield House

Meddai Prif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint, Colin Everett:

“Mae’r ffaith ein bod ni wedi goroesi pandemig enfawr a mynd o nerth i nerth yn dweud llawer am ymroddiad ac ymrwymiad ein timau mewnol, ein partneriaid a’n darparwyr a gomisiynir.

“Mae ein cydweithwyr gofal cymdeithasol wedi bod yn arwyr lleol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ac maen nhw’n llawn haeddu parch. O’r duwch yma mae’r ffaith y bydd gofal cymdeithasol yn derbyn cydnabyddiaeth genedlaethol, a chyllid teg, yn llygedyn o obaith.”  

Meddai Prif Swyddog Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint, Neil Ayling:

“Rydym ni’n cydnabod dewrder, ymroddiad a gwytnwch ein staff a’r rheiny yn y sector annibynnol a’n partneriaid, wrth iddyn nhw barhau i wella iechyd a lles trigolion Sir y Fflint. Mae hyn yn dyst i waith caled ac ymroddiad ein gweithwyr gofal cymdeithasol.

“Dydi heriau COVID-19 ddim wedi ein hatal rhag darparu ein blaenoriaethau ac mae cynnydd wedi’i wneud gyda chymaint o ‘fusnes fel arfer’ ag y bo’n bosibl.” 

Meddai’r Cynghorydd Christine Jones, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint:

“Mae’r adroddiad hwn yn dangos yn glir ein bod ni wedi llwyddo i ddarparu gwasanaethau gwych a gweithio’n hyblyg i barhau i gwrdd ag anghenion pobl drwy gydol y pandemig a’r cyfnod o ansicrwydd mawr. Rydym ni’n falch iawn o’r ffordd y mae holl staff lleoliadau gofal cymdeithasol wedi gallu parhau i gefnogi ein trigolion mwyaf diamddiffyn.”

Mae’r adroddiad blynyddol drafft hefyd yn amlinellu’r blaenoriaethau gwella a nodwyd ar gyfer 2021/2022. Mae’r rhain yn cynnwys: 

  • Cyfrannu at Asesiad Rhanbarthol o Anghenion y Boblogaeth ac Adroddiad Sefydlogrwydd y Farchnad 
  • Symud Meicro-Ofal o raglen beilot i fod yn rhan o gynnig parhaus y Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Datblygu Strategaeth a Chynllun Gweithredu i gefnogi pobl sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr, a pharhau i gael ein hadnabod fel Cyngor sy’n ‘Gweithio tuag at Ddeall Dementia’
  • Gweithredu model gofalu a chymorth newydd yn Arosfa
  • Annog gweithwyr i gwblhau modiwl e-ddysgu Llywodraeth Cymru “Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yn Erbyn Menywod” i gyrraedd cyfradd gwblhau o 100% 
  • Rhoi’r Trefniadau Diogelu Gwarchod Rhyddid ar waith
  • Parhau i ddatblygu Prosiect SEARCH
  • Datblygu cyfleoedd i unigolion awtistig gael mynediad at wasanaethau yn lleol
  • Parhau i weithio’n ddiogel i leihau nifer y plant sy’n mynd i’r system ofal, a gwella canlyniadau’r plant sydd mewn gofal
  • Gweithredu model maethu Mockingbird
  • Cwblhau’r Rhaglen Gofal Ychwanegol
  • Datblygu cynlluniau ymestyn gofal preswyl mewnol
  • Lansio gwasanaeth preswyl tymor byr i ddylanwadu ar y lleoliad symud ymlaen a’r pecyn cymorth mwyaf priodol i bobl ifanc.
  • Datblygu cynllun ‘Cartrefi Bach’ i blant

Mae’r adroddiad blynyddol ar gael drwy’r ddolen ganlynol: Adroddiad Gwasanaethau Cymdeithasol.