Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyngor Sir y Fflint yn croesawu 29 o brentisiaid newydd

Published: 10/09/2021

Apprentice Group  (1 of 6).jpgCyfarfu Prif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint, Colin Everett, â’r recriwtiaid newydd yn ystod diwrnod sefydlu yn Academi Dysgu a Datblygu'r Cyngor yng Ngholeg Cambria, Llaneurgain. Roedd un o’r prentisiaid yn hunan-ynysu ac wedi ymuno ar-lein. 

Caiff nifer o brentisiaid eu recriwtio bob blwyddyn i ddatblygu eu sgiliau proffesiynol wrth iddynt gychwyn ar eu gyrfaoedd.  Cynigiwn amrywiaeth o swyddi a chyfleoedd gyrfa mewn meysydd sy’n cynnwys busnes, cyfrifyddiaeth, TGCh, cyfryngau cymdeithasol, gwasanaethau i gwsmeriaid, archwilio ariannol, gwaith plymio, gwaith trydanol, gwaith saer, plastro, mecaneg, peirianneg gwresogi a gwasanaethau stryd. 

Mae’r prentisiaid fel arfer yn mynd i’r coleg un diwrnod yr wythnos i ennill cymwysterau a gydnabyddir gan y diwydiant ac yn ennill profiad gwerthfawr o weithio i’r cyngor ac ennill cyflog.    

Mae prentisiaid hefyd yn gwirfoddoli ac yn cymryd rhan mewn digwyddiadau cymunedol fel rhan o’r fframwaith Brentisiaid sy’n gwella eu profiad dysgu. 

Dywedodd Colin Everett, y Prif Weithredwr:

“Mae hi’n bleser bob amser i groesawu prentisiaid i’r Cyngor ac mae’n arbennig o braf eleni gan mai ni yw un o’r sefydliadau prin sydd wedi mynd ati i recriwtio prentisiaid wedi’r pandemig. 

 “Dymunaf bob llwyddiant i’n prentisiaid newydd wrth iddynt ddechrau ar eu taith ym myd gwaith.  Mae nifer o’n prentisiaid wedi mynd yn eu blaenau i fwynhau gyrfaoedd llwyddiannus yn y crefftau a’r proffesiynau y maent wedi eu dewis. Mae’r ffaith bod 96% o’r unigolion ar ein cynllun yn cael gwaith neu lefydd ar gyrsiau addysg uwch ar ddiwedd eu prentisiaeth yn glod i’r rhaglen a’n partneriaeth gyda Choleg Cambria.”