Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cefnogi’r gwasanaethau 999

Published: 10/09/2021

IMG_0442.JPGAm 9 o’r gloch y bore ar 9 Medi fe gododd Cadeirydd y Cyngor, y Cynghorydd Joe Johnson a’r Is-gadeirydd, y Cynghorydd Mared Eastwood, Faner y Gwasanaethau Brys yn Neuadd y Sir yn yr Wyddgrug. Hefyd yn bresennol roedd Neal Cockerton, Darpar Brif Weithredwr a Gareth Owens, Prif Swyddog (Llywodraethu), sydd hefyd yn Ddirprwy Glerc i Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru.

Esboniodd Cadeirydd y Cyngor: 

“Fe godwn Faner y Gwasanaethau Brys am 9 o’r gloch y bore ar nawfed diwrnod y nawfed mis, sef diwrnod 999. Codwn y faner i gydnabod cefnogaeth y Cyngor i bob un o’r gwasanaethau brys ac i roi ein diolch iddynt. Mae hyn hefyd yn cydnabod cyfraniad gweithwyr y Cyngor mewn argyfyngau. Rydym yn aruthrol o ddiolchgar i bawb sy’n mynd i’r afael ag argyfyngau o bob math.”