Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Masgot diogelwch ar safle adeiladu yn ymweld ag ysgol

Published: 25/10/2016

Mae 12 o dai cyngor newydd sy’n cael eu hadeiladu o dan fenter Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP) y cyngor bron wediu cwblhau yng Nghei Connah, ar safle hen Ysgol Custom House Lane. Maer safle yn gyfagos i Ysgol Caer Nant ac mae partner tai strategol y Cyngor, Wates Residential, syn adeiladur cartrefi newydd, wedi trefnu’n ddiweddar bod masgot y diwydiant adeiladu Ivor Good Site’, yn ymweld âr ysgol i atgyfnerthur neges ddiogelwch o ba mor beryglus gall chwarae ar safle adeiladu fod. Tra roedd yn yr ysgol, cyflwynodd Ivor becynnau gwybodaeth i ddisgyblion, yn tynnu sylw at y peryglon y gellir eu gweld ar safle adeiladu go iawn, ac o’i amgylch, a gwybodaeth am sut y gall plant aros yn ddiogel. Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint; “Er fy mod wrth fy modd gyda chynnydd y tai cyngor newydd, maen bwysig bod plant ar gymuned ehangach yn deall y peryglon ar risgiau o chwarae mewn safleoedd adeiladu, ac o’u hamgylch. Rwyf yn falch iawn bod Wates Residential yn amlwg yn cymryd eu cyfrifoldebau iechyd a diogelwch o ddifrif gyda’r cymunedau lleol, wrth ddylunio ac adeiladu eu datblygiadau.” Dywedodd Lee Sale, Cyfarwyddwr Busnes, Wates Residential: “Mae ‘Ivor Good Site’ yn darparu ffordd greadigol ac atyniadol o addysgu plant ynglyn â pheryglon safleoedd adeiladu a sut y gall pobl aros yn ddiogel. “Fel datblygwr dibynadwy, mae sicrhaur lefelau uchaf o ran safonau iechyd a diogelwch ar ein safleoedd adeiladu yn parhau yn brif flaenoriaeth i ni. Drwy gydweithion agos gydar cyngor, gallwn sicrhau lles y gymuned leol yn Sir y Fflint a chreu amgylchedd o gylch ein prosiectau lle na chaiff unrhyw un niwed.” Nodyn i olygyddion Yn y llun sy’n amgaeedig ceir athrawon a disgyblion Ysgol Caer Nant gyda’r masgot Ivor Goodsite, y Cyng. Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor (ar y chwith), y Cyng. Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd y Cyngor a Mick Cunningham, Rheolwr Safle Wates (ar y dde).