Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Targed 70 – Adolygu Strategaeth Gwastraff Sir y Fflint

Published: 16/09/2021

Gofynnir i Aelodau Cabinet Sir y Fflint gymeradwyo argymhellion ar gyfer dyfodol y gwasanaethau ailgylchu a gwastraff pan fyddant yn cwrdd nesaf ddydd Mawrth, 21 Medi.

Mae’r argymhellion yn seiliedig ar sylwadau Cynghorwyr yn y seminarau a gynhaliwyd ym mis Gorffennaf i gael eu barn ynglyn â’r gwasanaethau ailgylchu a gwastraff presennol a sut ellid cynyddu’r cyfraddau ailgylchu.

Er nad yw'r strategaeth gwastraff bresennol yn dod i ben tan ddiwedd 2025, y targed cenedlaethol nesaf i’w gyflawni yw 70% erbyn 2024/25. Mae’n bwysig felly bod y Cyngor yn mynd ati’n awr i gynllunio ar gyfer y dyfodol, gan gynnwys asesu effaith y strategaeth ar grynswth y gwastraff ar ôl COVID ac ystyried pa ymdrechion ychwanegol y gellid eu gwneud i hybu’r cyfraddau ailgylchu er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni’r targed cenedlaethol.

Meddai Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd Sir y Fflint, y Cynghorydd Glyn Banks:

“Rhaid inni glodfori llwyddiant y cyngor a phobl y sir gydag ailgylchu, ond gyda’r drefn newydd ar gyfer gwastraff sy’n cael ei gategoreiddio fel ailgylchu a’r ffordd y mae ymddygiad ein trigolion wedi newid yn sgil y pandemig, sydd oll wedi cael effaith ar ein perfformiad ailgylchu, mae arnom angen troi’n golygon yn awr i bethau eraill y gallwn eu gwneud er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni’r targed o 70% erbyn 2024/25.”

Dywedodd Katie Wilby, Prif Swyddog Strydwedd a Chludiant Cyngor Sir y Fflint: 

“Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gwybod fod peidio ag ailgylchu ein gwastraff yn cael effaith aruthrol ar yr amgylchedd a bod yn rhaid inni fynd i’r afael â hynny er mwyn lliniaru ar yr effaith ar y blaned yn y dyfodol.  Rydym hefyd yn colli cyfleoedd ariannol drwy beidio ag ailgylchu ein gwastraff. Mae pob tunnell o wastraff sy’n cael ei drin neu’i gladdu’n costio arian, ond mae gwerthu deunydd ailgylchu’n creu ychydig o incwm i’r Cyngor.”

Mae’r argymhellion yn cynnwys:

  1. Darparu gwybodaeth glir i bobl er mwyn gwella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r hyn y gellir ei ailgylchu neu beidio.
  2. Gorfodaeth gwastraff ochr y ffordd, sydd wedi ailddechrau’r mis yma wedi atal y drefn ym mis Mawrth 2020 oherwydd y pandemig Covid-19.  Yn ystod y cyfnod hwn casglodd y Cyngor 3,000 o dunnelli ychwanegol o wastraff gweddilliol o gartrefi pobl, sy’n gynnydd o 12% o gymharu â’r un cyfnod y llynedd, ac felly mae angen ailafael yn y dull tri cham o annog pobl i ailgylchu mwy.
  3. Cyflwyno Casgliadau Cynnyrch Hylendid Amsugnol ar gyfer aelwydydd sydd efallai angen cymorth i gael gwared â chewynnau neu gynnyrch ar gyfer anymataliaeth, a fydd yn ychwanegol i’r gwasanaeth presennol i gasglu gwastraff meddygol.  
  4. Canolfannau Ailgylchu Gwastraff o’r Cartref – yr argymhellion yw:
    • System apwyntiadau ar gyfer gwastraff peryglus fel asbestos 
    • Ailgyflwyno’r drefn o rannu cynnwys sachau duon fel bod yr holl ddeunydd ailgylchu a ddaw i’r safle wedi’i ddidoli a’i wahanu’n iawn. 
    • Adolygu’r System Trwyddedu Faniau er mwyn ei gwneud yn fwy amlwg i ddefnyddwyr y gwasanaeth ynglyn â’r cerbydau a drwyddedir neu beidio yn ôl eu math a’u maint.
  5. Dal ati i atgyweirio ac ailddefnyddio eitemau y gellid eu galw’n wastraff ond y mae modd eu trwsio a’u rhoi at ddefnydd o’r newydd mewn canolfannau fel y Ganolfan Atgyweirio ac Ailddefnyddio ym Mwcle sy’n cael ei datblygu mewn partneriaeth â Groundwork Gogledd Cymru a Refurbs Sir y Fflint.
  6. Cyflwyno cynllun peilot mewn ardal dan reolaeth er mwyn ymchwilio i’r posibilrwydd o bennu targedau ailgylchu lleol mewn rhai cymunedau a gweld a ellid dod ag unrhyw fanteision, fel arbedion ariannol, i gefnogi grwpiau amgylcheddol lleol i ddal ati â’u gwaith da neu gefnogi prosiectau cymunedol.
  7. Ymestyn y system tagiau electronig ar gyfer biniau brown ledled y sir yn dilyn llwyddiant y cynllun peilot.  Mae hyn yn wahanol i’r sticer/tag go iawn y mae preswylwyr yn ei gael unwaith y flwyddyn os ydynt yn cofrestru ar gyfer y gwasanaeth casglu gwastraff o’r ardd, a dyma fydd y drefn newydd ar gyfer pob defnyddiwr sy’n cofrestru i gael y gwasanaeth yn 2022 yn ogystal â phobl sydd wedi cofrestru ar gyfer casgliadau biniau duon â chymorth.