Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Lansio Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn Sir y Fflint a Wrecsam

Published: 16/09/2021

NEWales ACL logo Facebook cover photo.jpgCynhaliwyd lansiad swyddogol Partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned Gogledd-ddwyrain Cymru yn ddiweddar.

Mae’r Bartneriaeth yn fenter ar y cyd gan Gyngor Sir y Fflint a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam sydd â’r nod o ddarparu’r cyfleoedd a chanlyniadau dysgu gorau posib i oedolion yn ein cymunedau. 

Ariennir y Bartneriaeth gan Lywodraeth Cymru ac mae’n cynnig amrywiaeth o gyrsiau a darpariaeth addysg i oedolion fel bod pob oedolyn yn medru cael mynediad at y cyrsiau a’r gefnogaeth sydd ar gael. 

Meddai Aelod Arweiniol Addysg Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, y Cynghorydd Phil Wynn:

“Cefais y fraint o gyfrannu at sefydlu’r Bartneriaeth hon ac rwy’n llwyr gefnogol o’i nod o greu darpariaeth gynhwysfawr ym maes dysgu oedolion yn y gymuned yn y ddwy sir.  Mae hi wedi creu cryn argraff arnaf y ffordd y mae partneriaid yn cydweithio wrth wrando ar ddysgwyr, darparwyr addysg a chyflogwyr a chreu cwricwlwm ar sail hynny sy’n apelio at amrywiaeth o bobl, llawer ohonynt yn dychwelyd i fyd addysg am y tro cyntaf ond eraill hefyd sy’n anelu at wella eu cyfleoedd gyrfa.  Credaf fod yma rywbeth at ddant pawb ond os oes rhywbeth ar goll fe wnaiff y bartneriaeth bopeth o fewn ei gallu i lenwi unrhyw fylchau a ddaw i’r amlwg.  Byddwn yn annog pawb i fwrw golwg ar beth sydd ar gael ac os ydych chi’n petruso, cofiwch y bydd cymorth a chefnogaeth ar gael wrth ichi gymryd y cam pwysig nesaf yn eich bywyd.”

Mae’r Bartneriaeth yn gweithio â grwp o brif ddarparwyr er mwyn sicrhau bod yr addysg yn bodloni anghenion ein cymunedau, gan gynnwys:

• Hamdden a Llyfrgelloedd Aura

• Partneriaeth Parc Caia

• Coleg Cambria 

• Groundwork Gogledd Cymru

• Ty Calon – Ymddiriedolaeth Gymunedol Glannau Dyfrdwy

Meddai Arweinydd Cyngor Sir y Fflint ac Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid, y Cynghorydd Ian Roberts:

“Byddwn yn gweithio gyda’n gilydd i sicrhau’r cyfleoedd a chanlyniadau dysgu gorau posib i oedolion yng ngogledd-ddwyrain Cymru, boed hynny drwy gyrsiau blasu i bobl sy’n chwilio am rywbeth newydd i’w diddori a chwrdd â phobl debyg, neu drwy gynnig cymwysterau penodol i bobl sydd am symud ymlaen yn eu gyrfaoedd. Fel partneriaeth rydym wir wedi’n gwreiddio yn y gymuned a bob amser yn chwilio am syniadau a sylwadau am beth sydd ei angen yn ein cymunedau. Felly, os oes gennych unrhyw syniadau am y mathau o gyrsiau yr hoffech eu gweld, mae croeso ichi gysylltu â ni.”

Os hoffech gael gwybod mwy am y Bartneriaeth a’r amrywiaeth o gyrsiau sydd ar gael, gan gynnwys amserlenni tymor yr hydref, cysylltwch â ni.

Ffôn: 07584 335409 E-bost: acl@wrexham.gov.uk

Ewch i’n tudalen Facebook i gael mwy o wybodaeth am y cyrsiau sydd ar gael

https://www.facebook.com/DCiO-Goggledd-Ddwyrain-Cymru-106269388397678