Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ffair swyddi parc siopa Brychdyn yn dychwelyd gyda 200 a mwy o swyddi

Published: 22/09/2021

Mae Ffair Swyddi Parc Siopa Brychdyn yn dychwelyd am y bedwaredd flwyddyn, gyda mwy na 200 o swyddi manwerthu a lletygarwch llawn amser a rhan-amser ar gael. 

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ddydd Gwener 8 a dydd Sadwrn 9 Hydref o 10am tan 4pm yn y babell gyferbyn â siop Boots.

Mi fydd yna stondinau a chynrychiolwyr o amrywiaeth o fanwerthwyr, yn cynnwys cadwyn fwytai Tim Hortons o Ganada, Primark, Tesco, McDonalds, Homesense, Cineworld, Frankie & Benny’s, Footasylum, The Entertainer, M&S Food, Tesco a mwy. 

Bydd Cymunedau am Waith a Mwy Sir y Fflint, Canolfan Byd Gwaith a Gyrfa Cymru hefyd yn dod â chyflogwyr lleol eraill ynghyd, ac wrth law i ddarparu cyngor i bobl sy’n chwilio am waith a’u cynorthwyo i lenwi ffurflenni cais.

Meddai Alan Barker, Rheolwr y Ganolfan ym Mrychdyn: “Mae’r ffeiriau swyddi wedi bod yn llwyddiannus tu hwnt yn y gorffennol o ran paru cannoedd o geiswyr gwaith â swyddi yn y ganolfan. 

 “Mae’r deunaw mis diwethaf wedi bod yn anodd dros ben i lawer o bobl, ac felly rydym ni’n edrych ymlaen at gyflwyno cyfleoedd gwych i’r rheiny yn y gymuned sy’n chwilio am waith neu her newydd.”

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Chymunedau Am Waith 

janiene.davies@flintshire.gov.uk neu nia.parry@flintshire.gov.uk ar 07770 633453 neu â

Paul Murphy yn y Ganolfan Byd Gwaith ar 07748881647 neu paul.murphy6@dwp.gov.uk