Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyhoeddiad: Oriau agor y llyfrgell yn newid

Published: 26/10/2016

O 5 Tachwedd ymlaen bydd Llyfrgell ac Amgueddfa’r Wyddgrug yn cau am 1.30pm yn lle 3pm ar ddydd Sadwrn. Maer Cyngor yn gwneud y newid hwn er mwyn darparu mwy o staff yn y bore pan maer llyfrgell yn brysurach. Bydd cau’r llyfrgell awr a hanner yn gynt ar ddydd Sadwrn yn sicrhau y darperir lefel dda o wasanaeth i drigolion yr Wyddgrug. Ni fydd oriau agor diwrnodau eraill yn newid. Ac eithrio pan agorwyd Llyfrgell Glannau Dyfrdwy yn y Ganolfan Hamdden ym mis Mawrth eleni, Llyfrgell yr Wyddgrug oedd yr unig lyfrgell yn y sir ar agor ar brynhawn ddydd Sadwrn.