Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwobr i Ysgol y Foel

Published: 27/09/2021

Mae Ysgol y Foel wedi derbyn Gwobr Tirwedd yr AHNE i gydnabod eu prosiect ynni adnewyddadwy arloesol. 

Mae disgyblion wedi rhannu llwyddiannau’r ysgol a fydd o fudd iddyn nhw a’r gymuned ac wedi derbyn cydnabyddiaeth drwy Wobr TirweddYsgol Y Foel, cilcain (6 of 6).jpg yr AHNE. 

Yr ysgol fechan yng Nghilcain yw’r ysgol gyntaf yn Sir y Fflint i gwblhau prosiect datgarboneiddio o’r maint hwn i sicrhau bod yr ysgol yn gynaliadwy ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. 

Nid oedd adeilad yr ysgol a gafodd ei adeiladu yn y 1960au yn cefnogi’r weledigaeth o gynaliadwyedd a’r defnydd o ynni adnewyddadwy. Roedd yn defnyddio olew fel ffynhonnell wres ac yn defnyddio trydan o’r grid cenedlaethol. Sylwodd llywodraethwyr yr ysgol bod modd gostwng y biliau ynni ac ôl-troed carbon yr ysgol. Gan ddefnyddio arbenigwyr lleol a gyda chefnogaeth gan Swyddog Datblygu Cynaliadwy AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, datblygwyd cynlluniau uchelgeisiol a oedd yn torri tir newydd ac yn golygu ailosod y ffynhonnell ynni a system wresogi yn llwyr er mwyn gostwng ôl-troed carbon yr ysgol i net sero. 

Gosodwyd cyfanswm o 84 panel solar ar y to ynghyd â phympiau gwres o’r awyr, i ddarparu pwer trydanol a gwres drwy gydol y flwyddyn i’r ysgol gyfan. Maent hefyd wedi gosod wal bwer i storio trydan er mwyn sicrhau na fydd yr ysgol yn rhedeg allan o bwer hyd yn oed ar ddyddiau di-haul ac mae digon o ynni i’w werthu’n ôl i’r grid ar adegau hyd yn oed.    

Drwy sicrhau cyllid gan yr AHNE ar gyfer y prosiect, mae’r ysgol wedi gallu adeiladu dosbarth awyr agored ar eu safle sy’n caniatáu i ysgolion eraill ymweld a dysgu mwy am blanhigion a chreaduriaid amrywiol yr ysgol a’i siwrnai i fod yn ddi-garbon net.  

Mae’r ysgol wedi gosod esiampl o ran arloesi yn Sir y Fflint ac yn ysbrydoliaeth ar gyfer datgarboneiddio.

Dywedodd Hannah Blythyn, AS Delyn:

“Pleser oedd gallu cyflwyno’r wobr hon i Ysgol y Foel, eto’n dangos sut mae ein cornel ni o’r wlad yn arwain y gad o ran gwarchod yr amgylchedd a helpu i ddiogelu ein planed ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Gwych oedd gallu mynd i’r ysgol i weld brwdfrydedd y disgyblion a’u clywed yn dangos y gwaith roedden nhw wedi bod yn ei wneud i ddatgarboneiddio’r ysgol a sut roedden nhw wedi cael cefnogaeth i wireddu’r holl beth.

Llongyfarchiadau eto i bawb a fu’n rhan o’r prosiect a gobeithio y bydd y wobr hon yn ysbrydoli ac yn tanio brwdfrydedd pobl eraill.”

Dywedodd, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint ac Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid, y Cynghorydd Ian Roberts:

“Mae Ysgol y Foel yn bendant yn gosod esiampl i ysgolion yn Sir y Fflint o ran ynni cynaliadwy. Mae’r prosiect hwn yn wych ac mae cyrraedd statws di-garbon net yn gyflawniad anhygoel i’r ysgol. Maent yn llawn haeddu’r wobr hon gan yr AHNE. Rwy’n siwr y bydd ysgolion eraill yn edrych ymlaen at ymweld â’r dosbarth awyr agored a’r systemau newydd sydd ganddynt. Llongyfarchiadau Ysgol y Foel.” 

Dywedodd Pennaeth Ysgol y Foel, Emma O’Neill: 

“Rwy’n falch iawn ein bod wedi derbyn y wobr hon ac yn edrych ymlaen at gael rhannu’r prosiect arloesol gydag ysgolion eraill i’w hannog hwythau i leihau eu hôl-troed carbon hefyd.”

Dywedodd David Shiel o’r AHNE: 

“Mae Partneriaeth yr AHNE yn falch iawn o roi Gwobr Tirwedd yr AHNE eleni i Ysgol y Foel i gydnabod eu cyflawniad arbennig drwy’r Prosiect Datgarboneiddio. 

“Mae’r AHNE yn cyflwyno gwobr bob blwyddyn i gymuned, unigolyn neu fusnes sydd wedi gwneud cyfraniad rhagorol at dirwedd yr AHNE. Mae gwaith staff, llywodraethwyr a phlant Ysgol y Foel wir wedi bod yn ysbrydoliaeth ac mae’n gosod esiampl i bob un ohonom ni.”