Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Y Cyngor yn amddiffyn apêl cynllunio yn llwyddiannus 

Published: 29/09/2021

Mae Cyngor Sir Y Fflint wedi amddiffyn apêl diweddar yn erbyn ei benderfyniad i osod Rhybudd Gorfodi ar dir yn Nercwys yn llwyddiannus. 

Mae’r tir yn Nhy Melyn, Nercwys wedi bod yn destun trafodaethau cynllunio ers 2016, a chyhoeddwyd Rhybudd Gorfodi ym mis Medi 2020 er mwyn cywiro nifer o achosion o dorri amodau cynllunio.  

Nododd swyddogion cynllunio Sir y Fflint fod adeiledd pren wedi ei adeiladu a nifer o byst ffens wedi eu codi heb y caniatâd cynllunio priodol, ac ymddengys fod rhan o wrych wedi ei waredu.  Mae eitemau ar y tir sydd angen eu gwaredu hefyd, ac mae’r rhain i gyd yn ffurfio rhan o’r rhybudd. 

Gofynion y Rhybudd Gorfodi oedd: 

  • Gwaredu’r adeilad pren gyda tho ar oleddf oddi ar y Tir 
  • Gwaredu’r pyst ffens pren oddi ar y Tir, yn ogystal â’r holl ddeunyddiau adeiladu a’r rwbel, ac adfer y Tir i’r cyflwr yr oedd ynddo cyn y torrwyd yr amodau cynllunio 
  • Gwaredu’r tanc septig, yr holl ddeunyddiau adeiladau a’r garafán oddi ar y Tir 

Ystyriodd yr arolygydd a benodwyd  gan Weinidogion Cymru yr holl faterion a godwyd i gefnogi’r apêl, ond y canlyniad yw y dylid cynnal y rhybudd gorfodi.  

Dywedodd y Cynghorydd Christopher Bithell, Aelod Cabinet Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd Cyngor Sir y Fflint: 

 “Unwaith eto, roedd penderfyniad y Cyngor i gyhoeddi Rhybudd Gorfodi yn benderfyniad cywir.  Bydd y rhybudd yn sicrhau fod unrhyw adeiladau ac adeileddau a godwyd heb ganiatâd cynllunio yn cael eu gwaredu a’r tir yn cael ei glirio o unrhyw weddillion.  Mae’n glir fod y penderfyniad a gymerwyd gan yr arolygydd yn dangos fod Sir y Fflint yn gywir i gyhoeddi Rhybudd Gorfodi”