Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Drysau Ffrynt yn ymddangos i annog pobl ledled Cymru i agor eu cartrefi i blant maeth 

Published: 04/10/2021

Mae cyfres o ddrysau ffrynt a osodwyd gan Maethu Cymru yn tynnu sylw at y rhai sydd wedi agor eu cartrefi i blant maeth yng Nghymru, gyda’r nod o gynyddu nifer ac amrywiaeth y gofalwyr maeth o fewn awdurdodau lleol yn sylweddol.

Mae nifer o ddrysau ffrynt o faint go iawn wedi'u dadorchuddio y tu allan wrth i'r rhwydwaith newydd o 22 o wasanaethau maethu'r Awdurdodau Lleol ledled y wlad, Maethu Cymru, wahodd y cyhoedd i ystyried agor eu cartrefi i helpu i ddarparu ar gyfer nifer y plant yng Nghymru sydd angen gofal a chymorth.

Mae Maethu Cymru yn gweithio tuag at gynyddu nifer y gofalwyr maeth mewn Awdurdodau Lleol yng Nghymru i helpu i gadw plant yn eu hardal leol, pan fo hynny’r peth iawn iddynt, sy'n cyfrannu at yr effaith genedlaethol ar ddyfodol pobl ifanc.  

Ar ddiwedd mis Mawrth 2020, datgelodd ystadegau Llywodraeth Cymru fod 84% o blant sy'n byw gyda theuluoedd maeth yn dal i allu byw yn eu hardal eu hunain, gan gadw'n gyfarwydd â'r gymuned yr oeddent eisoes yn ei hadnabod.

Nod Maethu Cymru yw annog y rhai sy'n ystyried maethu i wneud hynny yn eu hawdurdod lleol fel y gall perthnasoedd pwysig, a all helpu plant i ffynnu, barhau.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Dros Wasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan, "Mae gofalwyr maeth yng Nghymru wedi dweud wrthyf droeon am ba mor werthfawr y gall y profiad o ofalu am blentyn fod. Rwy'n annog unrhyw un sy'n gallu agor eu cartref fel bod y plant hynny sydd angen ein help yn gallu byw plentyndod hapusach a datblygu i fod y bobl maen nhw’n dymuno cael bod."

Mae dadorchuddio drysau ffrynt o faint go iawn heddiw yn cynrychioli pob un o'r 22 Awdurdod Lleol a'r nod cenedlaethol cyfunol o gydweithio i helpu i adeiladu dyfodol gwell i blant yng Nghymru. 

Dywedodd Janette, gofalwr maeth Awdurdod Lleol gyda Maethu Cymru Sir y Fflint:

"Roedd bob amser yn rhywbeth yr oeddwn am ei wneud. Roedd yn rhaid i mi ystyried y teulu cyfan. Mae'n rhaid iddo weithio i bawb, a theimlais fod yr awdurdod lleol yn cynnig proses baru well i wneud iddo weithio, ac mae wedi gweithio. Mae'r plant yn fy ngwneud yn falch bob dydd.

"I unrhyw un sy'n ystyried dod yn ofalwr maeth, codwch y ffôn oherwydd gallwch newid bywyd plentyn a does dim teimlad gwell na hynny."

Meddai’r Cynghorydd Christine Jones, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint:

“Gobeithiwn groesawu llawer mwy o bobl i’r byd maethu gyda Maethu Cymru dros y misoedd nesaf. Mae gan bob plentyn hawl i ffynnu. Gall pawb sy’n maethu â thîm Maethu Cymru Sir y Fflint fod yn ffyddiog y byddwn wrth law bob cam o’r ffordd i gynnig arbenigedd, cyngor a hyfforddiant i’w cefnogi ar eu taith.” 

Mae Maethu Cymru yn annog mwy o bobl fel Janette i agor eu cartrefi i helpu i adeiladu dyfodol gwell i blant lleol mewn angen.

Mae digwyddiad heddiw yn dilyn lansiad diweddar ymgyrch ehangach Maethu Cymru sydd â'r nod o gael effaith genedlaethol sylweddol ar ddyfodol pobl ifanc yng Nghymru.

I gael gwybod mwy am faethu gyda Chyngor Sir y Fflint, ewch i www.maethucymru.siryfflint.gov.uk.

Flintshire fostering open door.JPG