Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Arolwg Rhieni Llywodraeth Cymru - Am lunio dyfodol gofal plant lle rydych chi'n byw?

Published: 07/10/2021

Yn galw rhieni a gofalwr sy’n defnyddio gofal plant yng Nghymru!

Mae Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol eisiau clywed eich barn am ofal plant yn eich ardal leol. 

Llenwch yr arolwg byr yma a chewch ddweud eich dweud heddiw.

Rydyn ni eisiau deall mwy am y gofal plant sydd ei angen arnoch, boed ar gyfer plant ifanc neu blant hyn sydd angen gofal cyn neu ar ôl ysgol neu yn y gwyliau. Rydyn ni eisiau gwybod beth yw eich profiad o ddod o hyd i ofal plant addas gan y bydd hyn yn ein helpu i gynllunio ar gyfer y dyfodol.

Mae’r arolwg ar gael tan hanner nos ar 24 Hydref 2021.