Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Wythnos Gofalwn Cymru 11-17 Hydref

Published: 07/10/2021

Wythnos nesaf bydd rhaglen llawn dop o weithgareddau yn codi ymwybyddiaeth a chanmol y sector gofal yng Nghymru.  

Mae wythnos Gofalwn Cymru yn ymdrech genedlaethol sy’n rhoi cyfle i daflu goleuni ar sut beth yw gweithio yn y sector gofal cymdeithasol. Bydd yn gyfle i roi cydnabyddiaeth i’r rhai sy’n gweithio yn y sector, ac yn dangos yr amrywiaeth o swyddi a gyrfaoedd sydd ar gael. 

Yn ystod yr wythnos, bydd Gofalwn Cymru yn cynnal cwrs pedwar diwrnod o hyd “Cyflwyniad i Ofal Cymdeithasol”. Bydd y cwrs yn rhoi cyfle i’r rhai sy’n cymryd rhan i ddysgu sgiliau hanfodol er mwyn dechrau gweithio yn y sector gofal cymdeithasol, gan gynnwys sgiliau cyfathrebu ac arferion gweithio diogel, ac yn cynnig trosglwyddiad llyfn i gyflogaeth am dâl yn Sir y Fflint gobeithio.

Ar ddydd Mercher 13 Hydref bydd cynrychiolwyr o’r sector gofal ym Marchnad Yr Wyddgrug i gyfarch pobl sy’n pasio heibio, gan gynnig trosolwg o sut beth yw gweithio yn y sector, a blas o’r cyfleoedd gwaith presennol yn Sir y Fflint. Os ydych chi yn Yr Wyddgrug y diwrnod hwnnw, dewch draw i ddweud helo. 

Dywedodd Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint, Y Cynghorydd Christine Jones:

"Mae wythnos Gofalwn Cymru yn gyfle ardderchog  i godi ymwybyddiaeth o’r gwaith mae’r sector gofal yn ei wneud a’i werth. Mae’n ffordd wych i ddysgu mwy am y swyddi gwag sydd ar gael, manylion ynglyn â’r swyddi a’r lleoliadau, ac mae’n gyfle i gyfarfod â’r timau.” 

“Rwy’n annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn gweithio yn y sector i fanteisio ar y cyrsiau hyfforddi a’r gweminarau sy’n cael eu cynnig wythnos nesaf ac ymweld â’r Wyddgrug i gyfarfod rhai o’r cynrychiolwyr o’r sector gofal”.   

Cadwch lygaid ar y cyfryngau cymdeithasol am ragor o wybodaeth ynglyn â gweithgareddau sy’n digwydd yn ystod yr wythnos drwy ddilyn #WythnosGofalwnCymru a #GofalwnCymru

Facebook - @GofalwnCymruGogleddCymru 

Facebook Cenedlaethol - @WeCareWales

Instagram - @gofalwncymrucares 

Twitter - @wecarewales

Twitter - @CSyFflint / @Flintshirecc