Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb – 09 i 16 Hydref, 2021

Published: 11/10/2021

Mae hi’n Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb yr wythnos hon, amser i dynnu sylw at drosedd casineb, annog dioddefwyr i adrodd a gweithredu i atal y troseddwyr.

Mae partneriaid ar draws Rhanbarth Gogledd Cymru gan gynnwys awdurdodau lleol, Heddlu Gogledd Cymru a Chymorth i Ddioddefwyr, yn gweithio gyda’i gilydd i dynnu sylw at faterion trosedd casineb a hyrwyddo pobl i adrodd i’r Heddlu a Chymorth i Ddioddefwyr.

Trosedd casineb yw unrhyw drosedd sydd wedi'i dargedu at unigolyn oherwydd gelyniaeth neu ragfarn tuag atynt.  Gall anabledd, tras neu ethnigrwydd, crefydd neu gred, cyfeiriadedd rhywiol neu drawsrywedd unigolyn achosi'r rhain. Gall y drosedd fod mewn amryw o ffurfiau, megis ar lafar, ar ffurf graffiti tramgwyddus, bygythiadau, difrod i eiddo, ymosodiad, seibr-fwlio, negeseuon testun sarhaus, negeseuon e-bost neu alwadau ffôn.

Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Rheolaeth Gorfforaethol ac Asedau:

 ‘Mae trosedd casineb yn anghywir. Mae’n dinistrio bywydau ac yn ynysu unigolion a chymunedau diamddiffyn. Rydym yn gwybod ei fod yn digwydd ond mae’n parhau i gael ei dan-adrodd. Rydym eisiau i holl droseddau a digwyddiadau casineb gael eu hadrodd fel bod y troseddwyr yn cael eu cosbi. Rhaid i holl asiantaethau sicrhau bod dioddefwyr yn cael eu cefnogi a bod yr holl wybodaeth yn cael ei ddefnyddio i ganfod mannau problemus ac atal y problemau rhag gwaethygu. Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru yn parhau i godi proffil y mater pwysig hwn ac rwy'n hyderus drwy weithio mewn partneriaeth y gallwn wneud gwahaniaeth gwirioneddol.'

Os ydych chi neu rywun rydych yn ei adnabod yn ddioddefwr trosedd casineb, mae nifer o ffyrdd i adrodd amdano: -

·         Ffonio’r Heddlu yn uniongyrchol drwy ddeialu 999 os ydych mewn perygl brys, neu 101 ar gyfer digwyddiadau nad ydynt yn rhai brys, neu gwblhau ffurflen adrodd ar-lein Heddlu Gogledd Cymru y gellir ei weld yma https://www.northwales.police.uk/cy-GB/cyngor/cyngor-a-gwybodaeth/troseddau-casineb/troseddau-casineb/Sut-i-riportio-troseddau-casineb/

·         Rhif Ffôn:  0300 30 31 982 [Yn rhad ac am ddim, 24/7] i gysylltu â Chymorth i Ddioddefwyr yn uniongyrchol. Caiff galwadau eu trin yn gyfrinachol ac mae gennych chi’r opsiwn i barhau’n ddienw.