Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynnydd mewn Credyd Cynhwysol yn dod i ben

Published: 13/10/2021

Gofynnir i aelodau cabinet ystyried effeithiau niweidiol y bydd y newid mewn Credyd Cynhwysol gan Lywodraeth y DU yn ei gael ar drigolion Sir y Fflint pan fyddent yn cyfarfod yn ddiweddarach y mis hwn.

 

Ar 20 Mawrth 2020 cyhoeddodd Llywodraeth y DU gynnydd cyfwerth â £20 yr wythnos i elfen sylfaenol lwfans safonol Credyd Cynhwysol werth hyd at £1,040 am flwyddyn i’r rhai oedd yn wynebu'r ymyrraeth ariannol fwyaf o ganlyniad i bandemig COVID-19.

 

Er bod Llywodraeth Cymru wedi mynegi pryderon o ran dod a chynnydd mewn Credyd Cynhwysol i ben, fe ddaeth y cynnydd i ben yn swyddogol ar 6 Hydref 2021.

 

Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet Rheolaeth Gorfforaethol ac Asedau:

”Mae dros 13,000 o drigolion yn Sir y Fflint yn derbyn Credyd Cynhwysol ac rwy’n siomedig gyda phenderfyniad Llywodraeth y Du i ddod a’r cynnydd i ben, sy’n golygu y bydd pob unigolyn a effeithir yn colli dros £1,000 y flwyddyn.

Mae hyn yn lleihad sylweddol mewn incwm misol a fydd yn effeithio ein trigolion i raddau amrywiol.  Rwy’n pryderu y bydd ein trigolion mwyaf diamddiffyn sydd eisoes mewn sefyllfa heriol yn ariannol, yn cael eu heffeithio ymhellach gan y penderfyniad hwn”.

Dywedodd Neal Cockerton, Prif Swyddog, Tai ac Asedau:

“Mae data yn dangos fod y Cyngor yn disgwyl gweld effeithiau negyddol mewn perthynas â gwariant Cynllun Gostyngiad Treth y Cyngor ac mae risg gwirioneddol y bydd mwyafrif y bobl yn Sir y Fflint yn disgyn i dlodi tanwydd; dlodi bwyd ac ôl-ddyledion rhent.

Bydd penderfyniad Llywodraeth y DU yn cyflwyno sefyllfa ariannol heriol ar gyfer trigolion lleol a’r Cyngor.  Mae trefniadau wedi cael eu rhoi mewn lle gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau i sicrhau atgyfeiriadau o’r Ganolfan Waith i asiantaethau cymorth lleol gan gynnwys ein Tîm Diwygio Lles.”

Anogaf i drigolion a all gael eu heffeithio chwilio am gymorth gan asiantaethau lleol a’r Tîm Diwygio Lles."

Gellir cysylltu â’r Tîm Diwygio Lles ar wrrt@flintshire.gov.uk neu 01352 704848.