Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Wythnos Ymgyrch Masnachwyr Twyllodrus

Published: 19/10/2021

Yn ystod Wythnos Ymgyrch Masnachwyr Twyllodrus, mae Gwasanaethau Safonau Masnach Gogledd Cymru yn uno i lansio prosiect i ymgysylltu â busnesau argraffu ar draws y rhanbarth.  Prif ffocws yr ymgyrch fydd cwmnïau argraffu sy’n cynhyrchu taflenni a phamffledi a ddefnyddir yn aml gan fasnachwyr i hyrwyddo gwasanaethau yn uniongyrchol ar garreg y drws.

Yn aml mae tystiolaeth gan ddioddefwyr troseddau ar garreg y drws yn dangos bod y troseddwyr yn ymddangos yn gredadwy ac yn broffesiynol wrth eu gwaith. Yn aml maent yn targedu ardaloedd preswyl trwy ddosbarthu taflenni cyn galw yn ddi-wahoddiad gyda’r bwriad o dwyllo pobl. Er bod y dull hwn o hysbysebu yn gyfreithlon, gwelwyd eu bod yn hepgor gwybodaeth statudol am eu busnesau, yn camarwain defnyddwyr ac nad ydynt yn darparu unrhyw ddull o iawndal na gwybodaeth sy’n galluogi swyddogion safonau masnach i ganfod o le maent yn dod.  Yn aml iawn mae’r taflenni hyn yn gardiau A5 sy’n hysbysebu gwasanaethau garddio neu drwsio toeau gyda chyfeiriadau amlwg at ‘ddisgownt i bensiynwyr’, ‘dim gwaith yn rhy fawr na rhy fach’ a ‘chyfnodau callio’ (cooling off periods). 

Mae rhediadau cynhyrchu mwy yn cael eu darparu yn fasnachol gan fusnesau argraffu ar-lein neu leol. Bydd ein hymgysylltiad ag argraffwyr lleol ym mhob rhan o’r rhanbarth yn tynnu sylw at y perygl i ddefnyddwyr, yn cynghori busnesau a'u hannog i gydymffurfio ac mae'n gyfle i ostwng nifer y taflenni di-enw nad oes modd eu holrhain a ddosberthir mewn cymunedau lleol.  

Dywedodd Richard Powell, Cadeirydd Safonau Masnach Gogledd Cymru:

“Mae masnachwyr twyllodrus yn dal i achosi nifer o broblemau i ddefnyddwyr yng ngogledd Cymru ac mae nifer ohonynt yn ceisio cuddio tu ôl i'r dull anghyfreithlon hwn o hysbysebu.  Mae’r prosiect hwn yn anelu at helpu busnesau argraffu i ddeall y deddfau y mae'n rhaid iddyn nhw gydymffurfio â nhw a’i gwneud yn fwy anodd i fasnachwyr twyllodrus guddio y tu ôl i'r dull hwn o hysbysebu."