Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwaith Adferol i’r Briffordd yn B5101 Ffrith

Published: 22/10/2021

roadworks_SMALL.jpgRydym yn falch o gyhoeddi bod y Cyngor wedi sicrhau’r cyllid ychwanegol i wneud gwaith adferol ar y briffordd yn B5101 yn Ffrith.  Cafodd y ffordd ei ddifrodi’n sylweddol gan dirlithriad oherwydd llifogydd yn Ionawr 2021 ac ers hynny mae rheolaeth traffig dwy-ffordd wedi bod ar y ffordd wrth i ni barhau i fonitro’r safle.

Mae gwaith atgyweirio pellach i’r cerbytffordd a’r arglawdd a chynllun i osod pwyntiau monitro o bell i ddechrau ar ddydd Llun, 1 Tachwedd am oddeutu 4 wythnos. 

I hwyluso’r gwaith bydd y rhan o’r B5101 rhwng yr Hen Borthdy ger Neuadd Ffrith a chyffordd Ffordd Minera B5102 ar gau i draffig trwodd gyda llwybr gwyro wedi’i arwyddo’n briodol i sicrhau diogelwch ein gweithlu a defnyddwyr y briffordd. 

Rydym yn ymddiheuro am unrhyw oedi ac amhariad y gallai y gwaith cynnal a chadw hanfodol hwn ei achosi. 

Meddai’r Cynghorydd Glyn Banks “Dwi’n falch iawn ein bod ni wedi llwyddo i sicrhau’r cyllid ar gyfer y gwaith atgyweirio sylweddol hwn.  Gwyddwn pa mor bwysig yw’r llwybr hwn i’r gymuned leol a’r aflonyddwch sydd wedi bod gyda’r rheolyddion traffig, felly rydym yn falch bod y gwaith yn golygu y bydd modd ail-agor y ffordd cyn gynted â phosib.”