Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Arolwg Parc Gwledig Gwepra 

Published: 19/10/2021

Hoffai Gwasanaeth Mynediad ac Amgylchedd Naturiol Sir y Fflint wybod beth yw eich barn am Barc Gwepra, y ffordd y mae’n cael ei reoli a beth hoffech ei weld yno yn y dyfodol. 

Mae Parc Gwledig Gwepra yn lleoliad naturiol 160 erw yng nghanol Cei Connah, Sir y Fflint, ac mae’n lleoliad unigryw gyda’i hanes, ei gynefinoedd arbennig amrywiol a’i ddaeareg ddiddorol.  Mae angen gwneud gwaith cynllunio cynhwysfawr ar gyfer safle mor arwyddocaol o ran hanes a'r amgylchedd, nid yn unig i warchod a rheoli'r bywyd gwyllt arbennig, ond hefyd i gefnogi ymarferoldeb amrywiol y parc.  

Wrth ddatblygu cynllun rheoli’r parc dros y deng mlynedd nesaf, mae’n bwysig ein bod yn clywed gennych chi, ein cymuned.  Gall unrhyw un gael gafael ar yr holiadur ar-lein a'i gwblhau a bydd yr atebion yn sail i'r ffordd y caiff y cynllun rheoli ei ddatblygu a sut y caiff cyllid ei ganfod ar gyfer prosiectau yn y dyfodol.  

Meddai Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Ian Roberts:

“Mae ymgynghori â’r gymuned o ran prosiectau rheoli a datblygu yn bwysig i ni, y Cyngor, i ddeall mwy am safbwyntiau pobl a sut y maent yn dymuno gweld eu mannau gwyrdd naturiol yn cael eu rheoli a’u defnyddio.  Mae Parc Gwepra yn uchel iawn ei barch ymysg trigolion lleol ac ymwelwyr a hoffem ddysgu mwy er mwyn helpu i lunio rheolaeth y Parc Gwledig yn y dyfodol.”

Rhowch wybod i ni beth yw eich barn am reoli Parc Gwledig Gwepra yn y dyfodol, gallwch gael gafael ar yr arolwg ar-lein yma https://www.smartsurvey.co.uk/s/GwepraWepre/  

IMG_8654.jpg