Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Y wybodaeth ddiweddaraf ar derfyn cyflymder 20mya yn y sir

Published: 22/10/2021

Mae Cyngor Sir Y Fflint bellach mewn sefyllfa i ddarparu diweddariad ar y cynnig i weithredu terfyn cyflymder 20mya ar draws ardaloedd preswyl Bwcle, New Brighton a Mynydd Isa.

Mae’r cynnig nawr yn datblygu i’r cam nesaf, yn dilyn trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru ac anelir at gefnogi datblygiad rhoi terfynau cyflymder 20mya ar waith fesul cam yn genedlaethol ar draws Cymru.  

Yn dilyn proses ymgynghori manwl, bydd cyflymder ar holl ffyrdd annosbarthedig (30mya) yn yr ardal arfaethedig yn gostwng i 20mya ac eithrio’r A549 rhwng Cylchfan Wylfa a Dirty Mile, Dobshill (bydd hon hefyd yn 20mya, os bwriedir, bydd yn cael ei roi ar waith fesul cam gan ddechrau yn 2023).  

Meddai Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Chludiant Sir y Fflint, y Cynghorydd Glyn Banks:

“Hoffem ddiolch i bawb am eu cefnogaeth barhaus yn ystod y flwyddyn yma gan fod cydweithrediad ac ymrwymiad y preswylwyr lleol yn hanfodol i lwyddiant y prosiect 20mya.   Mae hyn yn bwysig gan mai cyflymder gyrru ceir sy’n achosi anaf difrifol neu farwolaeth.

“Hoffem hefyd fanteisio ar y cyfle hwn i ofyn i chi am gefnogaeth bellach i helpu i hybu’r cynllun a chodi ymwybyddiaeth o fewn eich cymunedau lleol wrth i ni symud ymlaen gyda’r prosiect hwn yn ystod y misoedd nesaf.”

Y camau nesaf fydd gosod y cyfarpar monitro mewn amrywiol leoliadau o amgylch yr ardal fydd yn ein galluogi i gasglu data llinell sylfaen yn ogystal â datblygu’r Gorchmynion Rheoleiddio Traffig gofynnol ac ymgynghoriad statudol. Gellir archwilio dogfennau sy’n ymwneud â’r cynllun ym Mwcle yn Cysylltu neu gellir eu gweld ar y wefan yn https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Streetscene/Traffic-regulation-orders.aspx

Byddwn yn gweithio’n agosach gyda Heddlu Gogledd Cymru a gwasanaethau brys eraill ynglyn â’r cynigion.