Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Twyll Arolwg Tesco

Published: 26/10/2021

SGAM.jpg

Mae adran Safonau Masnach Sir y Fflint yn rhybuddio preswylwyr am dwyll maent wedi cael gwybod amdano sydd wedi dod o Tesco. 

Twyll ar ffurf e-bost ydyw sydd yn dweud ‘You have been selected to get an exclusive award’, mae’r e-bost yn ymddangos yn un diffuant iawn gyda logo Tesco mewn coch ar y brig,  yna gofynnir i chi glicio ar fotwm ‘Learn More’. Wedyn gofynnir i chi roi manylion penodol a gofynnir i chi am eich profiad yn eich siop leol.

Yn olaf, mae yna ddewis i glicio ar ‘Free prizes’ sydd yn ymddangos yn ddeniadol ac yn ddrud.  Ar ôl i chi wneud hynny gofynnir i chi dalu £1 a chofnodi manylion eich cerdyn neu fanc.

Peidiwch ag ateb yr e-bost yma, twyll ydyw, mae Tesco wedi cadarnhau hynny ac nid oes ganddynt unrhyw gyswllt â hyn. Twyll gwe-rwydo ydyw i geisio casglu manylion personol a bancio. Os byddwch chi’n cael e-bost o’r fath, dilëwch o.