Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Growth Track 360 yn galw ar y gweithredwr trenau Avanti West Coast i adfer gwasanaethau rhwng Llundain, Caer a Gogledd Cymru i fod mor aml ag yr oeddynt cyn y pandemig

Published: 22/10/2021

Mae arweinwyr busnes ac awdurdodau lleol yn y Gogledd Cymru, Cilgwri a Gorllewin Swydd Gaer a Chaer ym mhartneriaeth Growth Track 360 yn ceisio cael cadarnhad y bydd Avanti West Coast yn mynd ati cyn gynted â phosibl i adfer gwasanaethau uniongyrchol i Gaer a'r Gogledd sy'n rhedeg drwy gydol y dydd.

Collwyd gwasanaethau uniongyrchol yn y cwymp yn y galw am deithio ar y rheilffyrdd yn sgil pandemig Covid-19.  Er gwaethaf adfer dau wasanaeth uniongyrchol y dydd rhwng Euston Llundain a Chaergybi, mae pryder ynghylch yr arafwch o ran dychwelyd i'r patrwm gwasanaeth llawn a'r diffyg ymgynghori gan y gweithredwr trenau gyda rhanddeiliaid lleol ar ddiddymu gwasanaethau yn y lle cyntaf ac adfer gwasanaethau ar ôl Covid.

Meddai'r Cynghorydd Louise Gittins, Cadeirydd Growth Track 360 ac Arweinydd Cyngor Gorllewin Swydd Gaer a Chaer:

“Rydym yn gofyn i Avanti West Coast amlinellu eu cynlluniau i adfer y lefel uchel o wasanaethau rheilffordd intercity rhanbarthol a oedd gan ein rhanbarth cyn Covid 19 ac egluro pryd y gallwn ddisgwyl cynnydd mewn gwasanaethau o ddau drên uniongyrchol y dydd. Rydym am gael ymrwymiad hefyd i ymgynghori ag awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill yn y rhanbarth ar eu set nesaf o gynlluniau ar gyfer yr amserlen.”

Meddai'r Cynghorydd Ian Roberts, Is-gadeirydd Growth Track 360 ac Arweinydd Cyngor Sir y Fflint:

“Roedd y gwelliannau a wnaed tua diwedd masnachfraint Virgin yn fuddiol tu hwnt i Swydd Gaer a'r Gogledd gyda thrên uniongyrchol bob awr o Gaer i Lundain a gwasanaethau sy'n rhedeg yn ôl ac ymlaen i'r Gogledd bob dwyawr. Drwy hynny, darparwyd cysylltiadau uniongyrchol â dinas prifysgol Bangor, y porthladd i Iwerddon yng Nghaergybi a chyrchfan twristiaeth flaenllaw Llandudno. Roedd trên o Wrecsam hefyd a oedd yn cysylltu â'r gwasanaeth yng Nghaer ac yn dychwelyd yn y nos. Mae adfer y trenau hyn yn bwysig iawn i hygrededd ein rhanbarth a'n gallu i'w farchnata i fuddsoddwyr a thwristiaid.”