Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Dros ben llestri yn Llyfrgell Bwcle

Published: 07/11/2016

Cafwyd amser gwych yn Llyfrgell Bwcle yn ddiweddar pan ddarparodd staff y llyfrgell ddiwrnod arbennig o ddigwyddiadau am ddim i deuluoedd. Roedd ‘Dros ben llestri yn Llyfrgell Bwcle yn cynnwys sioe gan Mr Magico a fun diddanu pawb drwy berfformio castiau hud a gwneud anifeiliaid o falwns gyda chymorth rhai o’r gwirfoddolwyr brwdfrydig. Roedd llawer o’r plant wedi gwisgo gwisg ffansi ac fe drefnwyd dwy orymdaith gwisg ffansi o amgylch y ganolfan gan ddiddanu’r siopwyr lleol! Enillwyr gwobraur gystadleuaeth Gwisg Ffansi oedd Rachel Heaton, sy’n y llun gyda’i brawd Alex, a Liam Morris a oedd wedi gwisgo fel y Blaidd Mawr Drwg! Dywedodd y Cynghorydd Kevin Jones, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint ar gyfer Gwarchod y Cyhoedd a Hamdden: “Roedd y teuluoedd wir yn gwerthfawrogi’r diwrnod llawn hwyl hwn - roedd plant o bob oed a’u rhieni a theidiau a neiniau wedi mwynhaur adloniant oedd ar gael. Roedd y syniad wedi ysbrydoli dychymyg pawb ac roedd staff y llyfrgell yn llawn brwdfrydedd ar gyfer y digwyddiad arbennig hwn. Mae llyfrgelloedd yn darparu pob math o weithgareddau ar gyfer plant a theuluoedd drwy gydol y flwyddyn ac roedd y digwyddiad hwn yn gyfle i atgoffa pawb o’r gwasanaeth am ddim hwn. Roedd cyfle hefyd i gymryd rhan mewn sesiwn gymnasteg a symudiad JIMMY BEAR ar gyfer plant oedran cyn-ysgol ynghyd â chlywed straeon arswyd, canu caneuon, cymryd rhan mewn helfa drysor a bod yn greadigol gyda gweithgareddau crefft. I gael gwybod mwy am ddigwyddiadau yn y llyfrgelloedd yn y dyfodol, ewch i dudalen Facebook Llyfrgelloedd Sir y Fflint.