Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Y siwrnai i garbon niwtral - dweud eich dweud!

Published: 28/10/2021

Climate change consultation.jpg

Rhwng 31 Hydref a 12 Tachwedd 2021 bydd llygaid pawb ar Glasgow wrth i’r DU gynnal y 26ain Cynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig (COP26) 

Mae newid hinsawdd yn destun mor bwysig sy’n effeithio pob un ohonom ni, ac nid oes amser gwell – pan fydd arweinwyr y byd yn dod at ei gilydd – i’r Cyngor rannu’r hyn rydym wedi bod yn gwneud, a’r hyn rydym yn cynllunio ei wneud, yma yn Sir y Fflint i helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. 

Yn 2019, datganodd Llywodraeth Cymru Argyfwng Hinsawdd yng Nghymru, gan osod cynlluniau uchelgeisiol i’r sector cyhoeddus fod yn garbon niwtral erbyn 2030.  

Mae’r ffordd rydym yn gweithredu adeiladau, cludiant a thir sy’n eiddo i’r cyngor; y ffordd rydym yn darparu ein gwasanaethau ar draws y sir, a’r ffordd rydym yn prynu a chynhyrchu nwyddau a gwasanaethau oll yn cyfrannu tuag at ein hôl troed carbon.  

Dywedodd Andrew Farrow, y Prif Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd ac Economi) Sir y Fflint:

“Mae’r Cyngor wedi bod yn gweithio ar ddatgarboneiddio ers 2009 a hyd yn hyn wedi lleihau ei allyriadau carbon o ffynonellau ynni o oddeutu 60%, a rwan wedi ymrwymo yn ei nod i ddod yn ddi-garbon net erbyn 2030. 

“Ym mis Rhagfyr 2019, cymeradwyodd y Cabinet gynnig i ddatblygu strategaeth Newid Hinsawdd glir a fydd yn nodi cynllun gweithredol ar gyfer creu sefydliad di-garbon net, ac rydym yn gofyn am eich barn chi ar y strategaeth hon”.

Yn dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru, bydd y strategaeth newydd yn canolbwyntio ar bedwar prif thema:

• Adeiladau

• Defnydd Tir

• Symudedd a chludiant

• Caffael 

Gyda'r thema integredig o ‘Ymddygiad’.

Er mwyn helpu i ddatblygu’r strategaeth hon rydym yn cynnig cyfle i bobl gael dweud eu barn.  Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y themâu hyn ar www.siryffling.gov.uk/CSyFf-Hinsawdd ynghyd â ffurflen ar-lein ar gyfer sylwadau ac adborth.   Y dyddiad cau yw dydd Gwener 19 Tachwedd 2021.

Mae’r cyngor hefyd yn gweithio gydag ysgolion ac yn gofyn i ddisgyblion ysgol gynradd ac uwchradd i ysgrifennu llythyr i’w hunain yn y dyfodol - yn amlinellu’r hyn sydd angen i ni oll wneud i chwarae ein rhan a sut maent yn credu bydd y byd yn edrych 50 mlynedd o rwan.  Byddwn yn defnyddio rhai o’r llythyrau hyn i amlygu meysydd o’n strategaeth.