Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyngor Sir y Fflint yn ymuno ag ymgyrch newydd i fynd i’r afael â baw cwn 

Published: 28/10/2021

Dog fouling.jpgCyngor Sir y Fflint yn annog perchnogion cwn i wneud y peth iawn a chodi baw eu hanifeiliaid anwes fel rhan o ymgyrch cenedlaethol newydd gan Cadwch Gymru’n Daclus. 

Er yr amcangyfrifir bod naw allan o ddeg o berchnogion cwn yn glanhau ar ôl eu hanifeiliaid anwes, mae baw ci yn dal yn broblem mewn cymunedau ar draws y wlad.  Nod ymgyrch Cadwch Gymru’n Daclus yw codi ymwybyddiaeth o’r peryglon iechyd sydd yn gysylltiedig â baw cwn; nid yn unig i bobl ond hefyd i anifeiliaid fferm ac anifeiliaid anwes eraill. 

Gall baw ci sydd wedi ei adael ar ôl gario bacteria niweidiol all barhau yn y pridd ymhell ar ôl iddo bydru. 

Mae’r ymgyrch cenedlaethol yn cael ei gynnal fel rhan o Caru Cymru – mudiad cynhwysol sydd yn cael ei arwain gan Cadwch Gymru’n Daclus ac awdurdodau lleol i ysbrydoli pobl i weithredu a gofalu am yr amgylchedd. 

Meddai Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Chludiant Sir y Fflint, y Cynghorydd Glyn Banks:

“Mae baw ci wedi bod, ac yn parhau i fod yn broblem yn ein cymunedau.   Er fod nifer o’n perchnogion cwn yn glanhau ar ôl eu cwn, rydym yn cefnogi’r ymgyrch hwn i apelio gyda’r lleiafrif bychan o berchnogion cwn anghyfrifol i gadw ardaloedd cyhoeddus yn lân rhag baw cwn.”

Dywedodd Lesley Jones, Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus: 

“Rydym yn llawn cyffro yn lansio’r ymgyrch pwysig hwn gyda’n partneriaid mewn awdurdodau lleol.  Fel cenedl sydd yn caru cwn, dylem i gyd fod yn ymwybodol nad llanast amhleserus yn unig yw baw ci, gall fod yn beryglus.

“Rydym yn annog y lleiafrif bach o berchnogion cwn anghyfrifol i wneud y peth iawn.  Trwy beidio â chodi baw eich ci, gallech fod yn peryglu pobl, anifeiliaid fferm, a’n hanifeiliaid anwes annwyl.  Bagiwch, biniwch a gadael olion pawen yn unig pan fyddwch allan.”