Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ydych chi’n chwilio am waith? Oes arnoch chi angen cyngor ynglyn â sgiliau a hyfforddiant? 

Published: 29/10/2021

AdobeStock_291084988.jpeg

Dewch draw i ffair swyddi Sir y Fflint i wella eich siawns o gael gwaith.

Yn dilyn digwyddiad llwyddiannus diweddar a gynhaliwyd ym mharc manwerthu Brychdyn, mae Cymunedau am Waith, ar y cyd â’r Ganolfan Byd Gwaith a Gyrfa Cymru, yn cynnal digwyddiad arall ddydd Mawrth 9 Tachwedd rhwng 10am a 2pm yn Nhy Calon, Chester Road East, Queensferry, CH5 1SE.

Bydd dewis eang o gyflogwyr i ddewis ohonynt – a phob un â swyddi i’w cynnig a chyngor i’w rannu, felly dewch draw i weld a oes swydd sy’n addas ar eich cyfer chi.

  

Dyma’r cyflogwyr sydd eisoes wedi cofrestru, ac mae mwy yn cofrestru o hyd:

• 2 Sisters Food Group

• A M Services Group

• Culina (Great Bear Distribution)

• Gofal Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint

• Flintshire Well Fed

• Kickstart

• KK Fine Foods

• Moneypenny

• Morrisons/Farmers Boy

• New Directions

• Arlwyo a Glanhau NEWydd

• SGC Security Services

• Springboard

• Tim Hortons

• Toyota

• Westbridge Furniture

Bydd Cymunedau am Waith wrth law i gynnig cefnogaeth gyffredinol i unrhyw un sydd am ddychwelyd i’r gwaith a chofrestru â’r rhaglen.

Dywedodd y Cyng. Derek Butler, Aelod Cabinet Datblygu Economaidd Cyngor Sir y Fflint:

“Mae’r digwyddiadau a gynhaliwyd yn y gorffennol wedi bod yn llwyddiant mawr bob tro, ac mae llawer o breswylwyr lleol wedi llwyddo i sicrhau gwaith.

“Byddwn i’n annog unrhyw un sy’n chwilio am waith i ddod draw a gweld beth sydd ar gael, a manteisio ar help a chyngor gan Gymunedau am Waith, y Ganolfan Byd Gwaith a Gyrfa Cymru.

Os hoffech ragor o wybodaeth am raglen Cymunedau am Waith yn Sir y Fflint, cysylltwch â nia.parry@flintshire.gov.uk neu Janiene.davies@flintshire.gov.uk.