Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy – yr Ail Ymosodiad

Published: 19/06/2014

Mae paratoadau bellach yn dechrau o ddifrif ar gyfer Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy – yr Ail Ymosodiad - a fydd yn cael ei lansion swyddogol ar ddydd Gwener 27 Mehefin ym Mharc Gwledig Ty Mawr yn Wrecsam. Maer digwyddiad yn apelio ar wirfoddolwyr a sefydliadau i helpu i waredu planhigion ac anifeiliaid anfrodorol ymledol, megis clymog Japan, Jac y Neidiwr a chranc mitten Tseina sydd wedi coloneiddio glannau Afon Dyfrdwy. Yna bydd y cyhoedd yn cael eu gwahodd i ddiwrnod gwybodaeth ac arddangos a gynhelir ar ddydd Sadwrn 28 Mehefin ym Mharc Gwledig Ty Mawr yn Wrecsam o 12.30pm. Bydd arddangosfeydd yn y ganolfan ymwelwyr a bydd trelar Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru ger glan yr afon, ynghyd ag arddangosiadau yn dangos i bobl beth yw’r gwahanol ffyrdd o reoli rhywogaethau anfrodorol ymledol. Bydd y diwrnod gwybodaeth yn rhoi cychwyn i gyfres o ddigwyddiadau a fydd yn parhau ar draws y rhanbarth drwy gydol mis Gorffennaf. Maer digwyddiadau’n agored i bawb ar draws yr ardal er mwyn helpu i fynd ir afael â rhywogaethau estron ym mhob rhan o ddalgylch Afon Dyfrdwy, o darddiad yr afon ym Mharc Cenedlaethol Eryri i Swydd Gaer hyd ar aber yr afon ym Mae Lerpwl. Daw’r rhywogaethau estron hyn i Brydain naill ain ddamweiniol neun fwriadol a gallant achosi problemau mawr i fywyd gwyllt brodorol, yn ogystal â chael effeithiau eraill megis gwneud glannau afonydd yn fwy tueddol o erydu, a all arwain at lifogydd. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros yr Amgylchedd: “Maer digwyddiadau yma’n annog pobl i gyfrannu at wneud gwahaniaeth go iawn i gefn gwlad o amgylch Afon Dyfrdwy. Os oes gan unrhyw un ddiddordeb, mi ddylen nhw gysylltu efo’r Cyngor i ofyn sut mae cymryd rhan. Mae pump o Wasanaethau Cefn Gwlad yr Awdurdodau Lleol, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Prosiect Rhywogaethau Ymledol Anfrodorol y Ddyfrdwy, Cadwch Gymrun Daclus, Ymddiriedolaeth Dyfrdwy Cymru, Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, Sw Caer, Record, Cofnod a Chyfoeth Naturiol Cymru yn rhan o drefnur digwyddiad. Mae’r digwyddiadau eraill sy’n cael eu cynnal yn Sir y Fflint yn ystod mis Gorffennaf yn cynnwys: Dydd Gwener 28 Mehefin a Dydd Sadwrn 26 Gorffennaf – Tynnu Jac y Neidiwr a Chasglu Sbwriel – Nant Swinchiard, Y Fflint. Cysylltwch â Judith Wright o Cadwch Gymrun Daclus ar 07717495188 am ragor o wybodaeth. Sadwrn 19 Gorffennaf – Curo Jac y Neidiwr - Caergwrle rhwng 3pm a 5pm. Cyfarfod ym Maes Parcio Caergwrle, y Stryd Fawr. Dylid gwisgo dillad sy’n addas ar gyfer yr awyr agored, esgidiau glaw a menig, bydd lluniaeth ar gael. Mae’r digwyddiad am ddim ond mae’n hanfodol archebu – dylid cysylltu â Sarah Slater ar 01352 703263 neu e-bostio sarah.slater@siryfflint.gov.uk Nodyn i olygyddion Fech gwahoddir i anfon gohebydd a ffotograffydd i Barc Gwledig Ty Mawr yng Nghefn Mawr, Wrecsam gogyfer â lansiad swyddogol Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy – yr Ail Ymosodiad am 1:30pm ddydd Gwener 27 Mehefin lle bydd staff, pwysigion a gwirfoddolwyr. Cynhelir y diwrnod lansio a’r arddangosiadau cyhoeddus ar ddydd Sadwrn 28 Mehefin o 12:30pm. I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, dylid cysylltu â Meryl Norris, swyddog prosiect Rhywogaethau Ymledol Anfrodorol y Ddyfrdwy yn Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ar 01352 755472 neu e-bostio merylnorris@wildlifetrustswales.org Am ragor o wybodaeth ynglyn â digwyddiadau sy’n cael eu cynnal yn Sir y Fflint dylid cysylltu â Sarah Slater ar 01352 703263 neu e-bostio mailto:sarah.slater@siryfflint.gov.uk