Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


CANCELED!! Cyfle i ymuno â’r fforwm landlordiaid lleol

Published: 04/11/2021

Housing consultation.jpg

Mae Cyngor Sir y Fflint mewn partneriaeth â Chymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid Preswyl (NRLA) yn cynnal fforwm landlordiaid ddydd Mercher 8 Rhagfyr trwy Zoom, 6pm - 7.15 pm.

Mae'r fforwm yn gyfle i landlordiaid glywed newyddion, gofyn cwestiynau, cwrdd â landlordiaid eraill a darganfod am wasanaethau a allai fod o ddiddordeb iddynt.

Gall aelodau'r NRLA archebu'n uniongyrchol trwy eu cyfrif.

Gall y rhai nad ydyn nhw'n aelodau archebu trwy e-bostio

Landlord.Support@flintshire.gov.uk a byddwn yn anfon y ddolen atoch.

Siaradwyr a’r Agenda

  • Bydd Gill Owens o'r NRLA yn darparu diweddariad ar ddeddfwriaeth gan gynnwys Deddf Rhentu Cartrefi Cymru 2016 a newidiadau i'r broses feddiannu.
  • Bydd Tîm Tai Sir y Fflint yn darparu gwybodaeth am gefnogaeth sydd ar gael gan y Cyngor gan gynnwys y Grant Caledi Tenantiaeth ar gyfer tenantiaid sector rhentu preifat: coronafeirws.
  • Bydd Gavin Dick yn darparu crynodeb o’r newidiadau i Dystysgrifau Perfformiad Ynni (EPC’s).
  • Bydd tîm Iechyd yr Amgylchedd Sir y Fflint yn darparu trosolwg o safonau tai a sut y gallant gynorthwyo landlordiaid ac asiantau. Bydd hyn yn cynnwys manylion am y cymorth sydd ar gael i landlordiaid i'w helpu i gydymffurfio â Chod Ymarfer Rhentu Cymru (RSW) a sut i wneud cais am unrhyw grantiau ynni sydd ar gael.

I gael mwy o wybodaeth am y fforwm landlordiaid neu i anfon cwestiynau ar unrhyw bwnc perthnasol, e-bostiwch Landlord.Support@flintshire.gov.uk.