Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ffrwythau am ddim i ysgolion 

Published: 02/11/2021

AdobeStock_76226698.jpg

 

Mae myfyrwyr ysgolion uwchradd Sir y Fflint wedi cael cynnig ffrwythau am ddim mewn cynllun newydd a gyflwynwyd yn lleol.

Mae Cynghrair Tlodi Bwyd Gogledd Cymru, mewn partneriaeth â Bwyd Da Sir y Fflint a Chyngor Sir y Fflint, yn rhoi darn o ffrwyth am ddim i bob myfyriwr yn Sir y Fflint fel byrbryd canol bore. 

Meddai’r Cynghorydd Dave Hughes, Aelod Cabinet Tai Cyngor Sir y Fflint:

 “Mae Sir y Fflint wedi cefnogi llawer o fentrau i drechu tlodi bwyd ac i sicrhau bod trigolion yn gallu cael mynediad at fwyd ffres da yn cynnwys y cynllun “Rhannu eich cinio” yn ystod gwyliau’r ysgol a sefydlu Bwyd Da Sir y Fflint - menter gymdeithasol sydd wedi bod yn mynd i’r afael â thlodi bwyd ers 2018, a gwnaed gwaith sylweddol i gefnogi preswylwyr diamddiffyn yn ystod y pandemig. 

“Rydw i’n cefnogi’r fenter hon yn llwyr i sicrhau bod pob myfyriwr ysgol uwchradd yn Sir y Fflint yn gallu cael ffrwythau ffres bob bore.”  

Dyma adborth gan un o’r ysgolion, Ysgol Treffynnon:

Gan aelod o staff: 

“Mae’r ffrwythau’n wych i fyfyrwyr yn yr ysgol, mae’n hyrwyddo bwyta’n iach ac mae’n rhan o’n Hagenda Lles yn yr ysgol. Mae’r myfyrwyr wir yn mwynhau’r ffrwythau yn ystod y clwb brecwast ac amser egwyl. Mae’n gyfle ychwanegol i fyfyrwyr gael ffrwythau am ddim.”

Gan y myfyrwyr:

“Mae’r satsumas yn felys ac yn llawn sudd, maen nhw’n anhygoel!” 

“Mae’r ffrwythau am ddim yn yr ysgol yn syniad da iawn, mae’n hyrwyddo bwyta’n iach ac mae am ddim.”

“Rydw i’n hoffi cael y ffrwythau amser egwyl ac amser cinio, mae’n golygu fy mod yn cael byrbryd iach.”

Mae Jones Price Ltd wedi bod yn cyflenwi a danfon y ffrwythau bob wythnos ers mis Medi.  Cynhelir y cynllun am dri mis ar hyn o bryd. Mae’r ysgolion wedi bod yn dosbarthu’r ffrwythau eu hunain ac mae’r ymateb wedi bod yn hynod bositif gan bob un ohonynt.