Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Rhowch wybod i Crimestoppers am droseddau nwyddau ffug

Published: 02/11/2021

Crimestoppers counterfeit goods.jpgGall trigolion a busnesau sydd wedi prynu nwyddau ffug, neu’n gwybod am rywun sydd wedi prynu nwyddau ffug, roi gwybod yn ddienw i Crimestoppers.

Mae Safonau Masnach Cymru a’r elusen Crimestoppers wedi dod at ei gilydd i gynnig gwasanaeth sy’n galluogi’r cyhoedd i roi gwybodaeth werthfawr yn ddienw er mwyn cadw cymunedau’n ddiogel ac iach.

Dyma’r broblem ddiweddaraf y mae’r ddau sefydliad yn gweithio arno er mwyn annog y cyhoedd i roi gwybodaeth ar bryderon sydd ganddynt, a hynny’n hollol ddienw.

Dywedodd Helen Picton, Cadeirydd Safonau Masnach Cymru:

“Rydym wrth ein bodd i fod yn gweithio gyda Crimestoppers ac yn rhoi cyfle i aelodau’r cyhoedd roi gwybod am y troseddau hyn yn ddienw.

“Yn aml iawn mae nwyddau ffug o ansawdd gwael a gallant hefyd fod yn anniogel ac yn berygl i chi neu’r teulu.  Anaml iawn y bydd gwerthwyr nwyddau ffug yn rhoi eich arian chi nôl os bydd pethau’n mynd o’i le.

“Mae troseddau nwyddau ffug hefyd yn dinistrio swyddi a busnesau ac yn ariannu troseddau cyfundrefnol.”

Dyma rai pethau i’w sylwi arnynt o ran nwyddau ffug:

• prisiau rhad iawn 

• o ansawdd a safon gwael

• gwallau sillafu ar labeli a phecynnau

• printio o ansawdd gwael

• delweddau aneglir

• gwerthu cynnyrch mewn mannau anarferol e.e. marchnadoedd, arwerthiannau cist car, tafarnau, clybiau.

“Os ydych chi’n credu eich bod wedi prynu nwyddau ffug neu’n gwybod am rywun sydd wedi, yna rhowch wybod i Crimestoppers ar 0800 555 111 neu ewch i http://crimestoppers-uk.org gan ddweud beth rydych yn ei wybod.  Mae eich gwybodaeth yn gallu helpu i gadw cymunedau Cymru’n ddiogel,” ychwanegodd Helen Picton.