Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Penarlâg yn ffynnu unwaith eto wedi llacio cyfyngiadau’r pandemig

Published: 02/11/2021

Mae pentref Penarlâg yn Sir y Fflint yn edrych ymlaen at ddyfodol llewyrchus wrth i newidiadau a sbardunwyd gan y pandemig ddechrau dwyn ffrwyth.

Bu atyniadau’r pentref yn boblogaidd dros ben ers llacio’r cyfyngiadau ym mis Awst ac mae busnesau lleol wedi gweld twf cryf yn nifer yr ymwelwyr a ddenwyd gan y gweithgareddau a gwasanaethau newydd.

Ar safle Hawarden Estate defnyddiwyd cyflenwyr lleol yn ystod y pandemig i adnewyddu siop fferm a thafarn yr ystâd i greu siop groser gyda ffocws cymunedol, ynghyd â chyflwyno gweithgareddau newydd sy’n denu ymwelwyr yn ôl i dir yr ystâd.

Ychwanegwyd safle gwersylla atyniadol i deuluoedd hefyd, gan lwyddo i osod 90% o’r mannau aros ers ei agor.

Meddai Tom Cronk, pennaeth marchnata grwp Hawarden Estate:

“Y gwir yw na allwn oroesi heb gefnogaeth ein cymuned leol. Mae pobl leol wedi gwerthfawrogi ein gwaith caled yn ystod y pandemig ac wedi ymateb drwy gefnogi’r busnes yn frwd.

“Newidiwyd y Glynne Arms dros nos o fod yn dafarn yn unig i siop gymunedol sy’n llawn o gynnyrch ardderchog yr ystâd a chyflenwyr cyfagos. Apeliodd hyn yn fawr i’n cwsmeriaid ac mae’n destun balchder fod y siop wedi gweithredu fel angor i’r gymuned mewn cyfnod anodd.

“Rhoddodd llwyddiant ein datblygiadau yr hyder inni drefnu cyfres o ddigwyddiadau lle gwelwyd arwyddion pendant o dwf, gyda channoedd o bobl yn dod i’n nosweithiau cerddorol wythnosol a mwynhau ein dewis cynyddol o weithgareddau fel ioga a gwersi meistr coginio.”

Atyniad arall ym Mhenarlâg a welodd adferiad cryf yw Llyfrgell Gladstone / Gladstone’s Libary. Cynyddwyd y defnydd gan bobl leol a chyflwynwyd prosiectau newydd gyda’r nod o ehangu’r gynulleidfa fyd eang yn ogystal.

Mae’r Llyfrgell wedi hwyluso mynediad i’r adeilad hanesyddol trwy ddatblygu’r fynedfa, y coridorau mynediad a’r cyfleusterau aros. Hefyd cafodd yr archifau a’r systemau cofnodi a chatalogio eu digiteiddio.

Mae rhaglenni fel y cynllun ysgrifenwyr preswyl ‘Writers in Residence’ wedi ailddechrau a bydd y bardd Isabel Galleymore yn cynnal sgwrs ar ôl-ddyneiddiaeth a dosbarth meistr eco-farddoniaeth ym mis Tachwedd. Bellach mae’r llyfrgell yn medru darlledu’n fyw dros y we yn ogystal â chroesawu mynychwyr personol.

Meddai Peter Francis, warden a chyfarwyddwr Llyfrgell Gladstone:

“Ar ôl inni fod ar gau am bron i 18 mis, mae’n gyffrous gweld y llyfrgell yn lle llawn bywyd unwaith eto, gyda digwyddiadau’n cael eu cynnal o’r newydd ac ymwelwyr yn frwd i weld y newidiadau wnaethom.

“Cawsom ein syfrdanu gan faint y gefnogaeth a gawsom gan ein cymuned leol yn ystod y pandemig. Ac mae’n braf gweld fod y gefnogaeth honno wedi parhau ers inni ailagor, gyda gwirfoddolwyr newydd yn fodlon helpu gyda phob dim o gadwraeth llyfrau i gynnal a chadw’n gerddi hardd.

“Heb y cymorth hwn, byddai’r llyfrgell yn lle tra gwahanol. Mae’r gefnogaeth wedi caniatáu inni fuddsoddi rhagor, cyflogi mwy o staff, addasu ein gwasanaethau i gwrdd â gofynion modern a gwella profiadau ein hymwelwyr.”

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint:

“Mae datblygiadau Llyfrgell Gladstone a Hawarden Estate yn enghreifftiau ardderchog o’r gwaith gwych a wnaed gan fusnesau Sir y Fflint yn ystod cyfnod heriol y pandemig.

“Nid yn unig y derbyniodd y ddau le gefnogaeth haeddiannol iawn gan eu cymuned leol, maent hefyd wedi datblygu cynigion newydd a gweithgareddau positif a fydd yn cynyddu poblogrwydd a phrysurdeb Penarlâg a Sir y Fflint i gyd yn y dyfodol.” 

Mae Cyngor Sir y Fflint yn awyddus i fusnesau a thrigolion lleol rannu eu straeon am ddatblygiadau llwyddiannus yn ystod y pandemig.

Gofynnir iddynt wneud hynny naill ai ar y cyfrif Facebook Archwilio Sir y Fflint / Explore Flintshire (@exploreflintshire) neu’r cyfrif Instagram (@explore_flintshire).