Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


 Barod am y gaeaf!

Published: 12/11/2021

Mae Cyngor Sir y Fflint yn paratoi ar gyfer y gaeaf, gyda pharatoadau blynyddol ar waith ar gyfer y tymor graeanu.

Mae’r gaeaf yn amser prysur iawn o’r flwyddyn ar gyfer y Gwasanaethau Stryd, yn enwedig wrth i’r tymheredd ostwng, ac eira ar y ffordd. Mae ein timau'n dechrau paratoi ar gyfer y gaeaf mor gynnar â mis Hydref, felly efallai eich bod eisoes wedi gweld ein cerbydau graeanu allan yn gwirio llwybrau a phrofi cyfarpar. Mae’r cerbydau’n cael eu gyrru unwaith yr wythnos i sicrhau eu bod yn gweithio’n iawn, ac ar yr un pryd, rydym yn hyfforddi gyrwyr newydd.  Mae hyn i sicrhau bod gennym yr uchafswm o adnoddau ar gael petai ein timau'n cael eu hanfon i raeanu ffyrdd y Sir.

Mae’r fflyd o 12 cerbyd graeanu ar alwad 24 awr y dydd, saith niwrnod yr wythnos.  Mae llwybrau blaenoriaeth yn cael eu pennu gan ddosbarthiad ffyrdd a defnydd.  Mae 12 llwybr graeanu blaenoriaeth 1 (ffyrdd sy'n cario nifer uchel o draffig) sef cyfanswm o tua 560km o rwydwaith priffyrdd y Sir, sef 45% o’r cyfanswm.

Meddai Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd Sir y Fflint, y Cynghorydd Glyn Banks:

“Rydym yn rhoi blaenoriaeth uchel i helpu traffig i symud yn ddiogel yn ystod y gaeaf. Mae’n hanfodol i breswylwyr a busnesau. Rydym yn graeanu fel bo’r angen i gadw ein ffyrdd ar agor. Ein blaenoriaeth gyntaf yw'r prif lwybrau sy’n cysylltu, neu fynd i drefi’r sir, gyda llwybrau sy’n rhoi mynediad i gymunedau llai i ddilyn. Mae ein timau graeanu unwaith eto'n barod i fynd allan a chadw ein ffyrdd i symud drwy fisoedd y gaeaf.

“Mae ein storfeydd halen wedi’u stocio gyda 2,000 tunnell yn Alltami a 5,000 ym Maes Glas (gyda mwy ar fin cyrraedd) – yn ychwanegol at 450 bin halen a thomenni graean sydd wedi'u cyflenwi gyda dros 100 tunnell ar ymylon priffyrdd mewn ardaloedd gwledig. 

“Rydym yn defnyddio system “autologic” sy’n sicrhau bod y swm optimaidd o halen wedi cael ei ledaenu i wneud y mwyaf o driniaethau, sy’n golygu nad yw halen yn cael ei wastraffu. Mae’r dechnoleg hefyd yn caniatáu i’r cerbydau gael eu dilyn drwy gydol y gweithredoedd graeanu.”

Mae’r tywydd yn cael ei fonitro’n agos rhwng mis Hydref ac Ebrill, ac mae penderfyniad dyddiol yn cael ei wneud ar a oes angen unrhyw gamau gweithredu.

Gall preswylwyr wneud eu rhan a dechrau meddwl am baratoi ar gyfer y gaeaf, megis gwirio bod eu cerbydau eu hunain yn ddiogel ac yn barod ar gyfer y gaeaf, gan edrych ar ragolygon lleol a rhanbarthol y tywydd cyn teithio, a pharcio'n synhwyrol i ganiatáu i gerbydau graeanu basio'n ddiogel.  

Mae nifer y galwadau ffôn ac ymholiadau i’r Gwasanaethau Stryd yn cynyddu yn ystod adeg hon o’r flwyddyn, yn enwedig mewn achosion o dywydd garw.   

Rydym o hyd yn anelu i drin ymholiadau cyn gynted â phosib mewn modd effeithlon, ond mewn rhai achosion, gellir canfod yr ateb ar ein tudalennau graeanu a chlirio eira, mae gennym lawer o wybodaeth yno, a dolenni i wefannau defnyddiol eraill hefyd.  

Street Scene (2 of 3).jpg

Mark Humphreys, Keith Johnson, Katie Wilby, Cyng Glyn Banks