Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


B5122 Caerwys, Cyfnewidfa Caerwys yr A55 i Rodfa Mihangel Sant – Gwaith Gosod Wyneb ar y Lôn Gerbydau

Published: 19/11/2021

roadworks_SMALL.jpgEr mwyn gallu gwneud gwaith gosod wyneb, bydd y B5122 ar gau o Gyfnewidfa Caerwys yr A55 i’w chyffordd â Rhodfa Mihangel Sant dros y cyfnodau canlynol:

Rhwng 08:30 dydd Gwener 26 Tachwedd a 17:00 dydd Gwener 26 Tachwedd

Rhwng 08:30 dydd Llun 29 Tachwedd a 17:00 dydd Llun 29 Tachwedd 

Rhwng 08:30 dydd Mawrth 30 Tachwedd a 17:00 dydd Mawrth 30 Tachwedd

Rhwng 08:30 dydd Mercher 1 Rhagfyr a 17:00 dydd Mercher 1 Rhagfyr

Yn ystod y cyfnod hwn, bydd y B5122 yn caniatáu traffig dwy ffordd arferol dan gyfyngiad cyflymder o 10mya dros nos (rhwng 17:01 a 08:29). 

Bydd y ffordd ar gau i sicrhau diogelwch y gweithlu sydd wrthi’n gwneud y gwaith a defnyddwyr y briffordd.

Hoffem ddiolch i chi ymlaen llaw am eich cydweithrediad yn ystod y gwaith hwn, a’ch sicrhau y byddwn yn gweithio’n agos gyda chi i wneud yn siwr ein bod yn amharu cyn lleied ag y gallwn arnoch chi.  

Os bydd gennych chi unrhyw gwestiynau am y gwaith uchod, cysylltwch â Chyngor Sir y Fflint; Gwasanaethau Stryd a Chludiant ar 01352 701234.