Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gosod Treth y Cyngor ar gyfer 2022/23

Published: 15/11/2021

Bydd gofyn i aelodau Cabinet Sir y Fflint gymeradwyo sylfaen dreth ar gyfer 65,194 Band eiddo sydd gyfwerth â Band D, at ddibenion gosod treth ar gyfer 2022/23 pan maent yn cwrdd ddiweddarach yn y mis. Bydd gofyn iddynt barhau i osod 50% o Bremiwm ar gyfer 2022-23 ar eiddo gwag hirdymor ac ail gartrefi sy’n dod o dan gynllun Premiwm Treth y Cyngor.

Mae gan y Cyngor ddyletswydd statudol i osod Sylfaen Treth y Cyngor, ac mae Sylfaen Dreth arfaethedig yn gyfrifiad cymhleth ledled 34 Tref ac ardaloedd cymunedol sydd angen rhagolygon cywir ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf ar nifer o eiddo taladwy ar ôl ystyried adeiladau newydd, eithriadau eiddo a chynlluniau gostyngiadau.

Mae gosod Sylfaen diweddaraf Treth y Cyngor yn rhan ganolog o broses gosod Treth y Cyngor ar gyfer 2022/23 a’i fod yn caniatáu i’r Cyngor, Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru a Chynghorau Tref a Chymuned gyfrifo Praesept Treth y Cyngor at y flwyddyn nesaf, gan ddefnyddio'r eiddo ystadegau diweddaraf.

Dywedodd Dirprwy Arweinydd (Llywodraethu) a'r Aelod Cabinet Rheolaeth Gorfforaethol ac Asedau, y Cynghorydd Billy Mullin:

“Mae Sylfaen Treth y Cyngor ar 65,194 eiddo sydd gyfwerth â Band D yn dangos bod Sir y Fflint yn parhau i fod yn ardal o ffyniant economaidd, gan fod twf o 0.26% yn y Sylfaen Dreth ddiweddaraf, sydd gyfwerth â chynnydd o 168 eiddo Band D, o'i gymharu  llynedd."