Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Llwyddiant Ffair Swyddi 

Published: 15/11/2021

Daeth dros 300 o bobl i Ffair Swyddi a gynhaliwyd yng nghanolfan Ty Calon yn Queensferry yn ddiweddar.

Roedd y digwyddiad yn cael ei gynnal gan Gymunedau am Waith ar y cyd â’r Ganolfan Byd Gwaith a Gyrfa Cymru. Dyma’r ffair swyddi gyntaf i bob sector yn Sir y Fflint am bron i 2 flynedd.  

Roedd y Ffair Swyddi wedi’i hanelu at oedolion a phobl ifanc sy’n chwilio am waith a bu’n gydweithrediad llwyddiannus arall.  

Roedd 24 o stondinau yn y digwyddiad, gan gynnwys cyflogwyr oedd â dros 200 o swyddi gwag. Ymysg y cyflogwyr roedd Toyota, KK Fine Foods, Westbridge Furniture, Cyngor Sir y Fflint, Ifor Williams a llawer mwy.

Daeth myfyrwyr o’r coleg lleol yno hefyd i gael gwybod mwy am opsiynau gyrfa a phrentisiaethau sydd ar gael. 

Yn ogystal ag ymgeisio am wahanol swyddi gwag oedd ar gael, roedd rhai oedd yn chwilio am waith yn gallu cyfarfod â chyflogwyr a gofyn cwestiynau iddynt am y tro cyntaf ers dros 2 flynedd oherwydd y pandemig Covid. Roedd Cymunedau am Waith yno i gynnig cymorth cyffredinol am waith ac roedd pobl yn gallu cofrestru ar gyfer y rhaglen ar y diwrnod. 

Dywedodd y Cyng. Derek Butler, Aelod Cabinet Datblygu Economaidd Cyngor Sir y Fflint:

“Roedd y digwyddiad yn llwyddiant mawr – daeth dros 300 o bobl drwy’r drysau. Roedd yn dangos y gwahanol gyfleoedd oedd ar gael yn lleol. Roedd adborth gan gyflogwyr yn dangos bod ansawdd yr ymgeiswyr a’r lefel o ymgysylltu’n uchel. Gan fod ymgeiswyr cystal yno, roed rhai o’r cyflogwyr yn gallu cyfweld pobl ar y diwrnod.”

Mae Cymunedau am Waith a Chymunedau am Waith a Mwy wedi’u bwriadu i ddarparu cymorth cyflogadwyedd a hyfforddiant ym mhob ardal yng Nghymru. Maent yn cael eu darparu’n lleol mewn lleoliadau cymunedol ac mae pobl yn cymryd rhan yn wirfoddol. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: cfwtriage@flintshire.gov.uk.

 

Queensferry Jobs Fair Ty Calon (7 of 12).jpg         

 

Queensferry Jobs Fair Ty Calon (8 of 12).jpg

 

Queensferry Jobs Fair Ty Calon (9 of 12).jpg Queensferry Jobs Fair Ty Calon (6 of 12).jpg