Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adborth cadarnhaol i Sir y Fflint

Published: 25/11/2021

social services.jpgYn ddiweddar, mae Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) wedi cyhoeddi ei Adroddiad Trosolwg Cenedlaethol ar gyfer Archwiliadau Sicrwydd ac mae Sir y Fflint wedi cael adborth cadarnhaol mewn sawl maes.

Cynhaliwyd archwiliadau sicrwydd ar bob awdurdod lleol yng Nghymru rhwng mis Medi 2020 a mis Gorffennaf 2021. Y meysydd sy’n cael eu crybwyll yn arbennig yw:

  1. Ein gwefan Taliadau Uniongyrchol lle’r oedd yr adroddiad yn nodi ein bod wedi bod yn arloesol, oherwydd bod ein gwefan yn “ymwneud yn benodol â thaliadau uniongyrchol a chynorthwywyr personol. Mae cofrestr yn ceisio helpu dinasyddion a’u teuluoedd i chwilio am gynorthwywyr personol ac fel arall, yn ogystal â “hysbysebu” am gynorthwywyr personol i ddatblygu eu sgiliau.”
  2. Ein cefnogaeth ar gyfer gweithwyr cymdeithasol newydd gymhwyso a nododd eu bod wedi cael eu cefnogi a’u sefydlu’n effeithiol.
  3. Morâl cadarnhaol gan staff a chefnogaeth rheolwyr – mae ein gweithwyr yn gwerthfawrogi’r hyblygrwydd wrth reoli eu cydbwysedd gwaith a bywyd, gan gynnwys darparu ar gyfer addysgu plant gartref.
  4. Ein cymorth wedi’i dargedu i oedolion gydag adnoddau cam-i-fyny/cam-i-lawr a chymunedol ar gael i gefnogi pobl; roedd hyn yn cynnwys gweithwyr dementia arbenigol, y gallu i gael gafael ar gyfarpar yn amserol, mân addasiadau, a thechnoleg gynorthwyol. Clywsom hefyd fod y dull sy’n canolbwyntio ar atebion ym maes iechyd meddwl yn atal pobl rhag gorfod cael gwasanaethau mwy dwys.
  5. Cawsom ein canmol am ein dull darbodus o ddyrannu adnoddau, gan sicrhau bod y cymorth cywir ar gael ar yr adeg gywir. Mae hyn yn atal cynnydd mewn angen ac yn gwella ansawdd taith pobl drwy’r system iechyd a gofal cymdeithasol.
  6. Roedd cyfeiriad cadarnhaol at sut rydym ni’n rheoli cyfarpar i gefnogi pobl i fyw gartref trwy ein storfeydd ar y cyd – NEWCES (Gwasanaeth Cyfarpar Cymunedol Gogledd-ddwyrain Cymru) a ddisgrifiwyd fel darparu system gyflenwi effeithlon.
  7. Roedd gwaith dydd ar gael i ddefnyddiwr gwasanaeth – ymatebodd Sir y Fflint yn gadarnhaol i berson a ofynnodd am gynnydd yn ei phresenoldeb er mwyn iddi fanteisio ar ei chyfle i wneud “gwaith dydd” ar ôl i’r cyfyngiadau gael eu llacio.
  8. Mae cofnodion cyfarfodydd plant sy'n derbyn gofal wedi’u hysgrifennu mewn ffordd hygyrch – mae cynnwys plant a phobl ifanc yn effeithiol mewn adolygiadau yn helpu i gynyddu eu cyfranogiad.
  9. Amlygwyd ein model maethu arloesol Mockingbird, lle mae un cartref maeth yn gweithredu fel hyb i ofalwyr maeth eraill gan gynnig seibiannau cysgu dros nos wedi’u cynllunio ar frys yn ogystal â chyngor, hyfforddiant a chymorth. Mae gofalwyr maeth y cartref hyb yn darparu cymorth i rhwng chwech a 10 gofalwr maeth arall yn eu cymuned. Nod y rhaglen yw sicrhau bod lleoliad yn fwy sefydlog i’r plentyn a’r teulu maeth a’u helpu i feithrin cydberthnasau cryfach.
  10. Soniwyd am Hyb Cymorth Cynnar hefyd am ei ddull partneriaeth cadarnhaol, sydd yn fuddiol i blant a theuluoedd.

Meddai’r Cynghorydd Christine Jones, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint:

“Er nad yw’n syndod i mi bod Sir y Fflint wedi’i gydnabod am ei arloesedd a’i ymrwymiad i ddarparu amrywiaeth eang o gefnogaeth hanfodol a gwasanaethau gofalgar i’n preswylwyr, er hyn, mae’n bleser cael canmoliaeth a chydnabyddiaeth gan AGC. Mae hyn yn dyst i waith gwych ein staff a’n timau a’r partneriaethau agos a geir gyda chydweithwyr ar draws y rhanbarth.”