Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Lansio Abbey Upcycling

Published: 01/12/2021

FRONTAGE metal upcycling.jpg

Yn ddiweddar, croesawyd cynrychiolwyr o’r Cyngor a rhieni i Abbey Upcycling, y Fflint, gan y staff a’r bobl sy’n cael eu cefnogi yno, er mwyn dathlu agoriad swyddogol y gwasanaeth.

Fel rhan o’r newidiadau sy’n digwydd ar hyn o bryd yn y gwasanaethau anableddau dysgu, mae Abbey Metal wedi ei ail-lansio yn ‘Abbey Upcycling’. Gweithredir y gwasanaeth gan elusen anableddau dysgu Hft ar ran Cyngor Sir y Fflint. Mae’n cefnogi pobl sydd ag anableddau dysgu mewn tri gweithgaredd penodol, sydd yn eu galluogi i ddatblygu amrywiaeth o sgiliau newydd. Mae’r gweithgareddau’n cynnwys uwchgylchu beiciau, gwneud ac uwchgylchu dodrefn a nwyddau cartref, a defnyddio deunyddiau electronig i wneud pedalau gitâr. 

Cafodd ymwelwyr y cyfle i weithio gyda’r rhai sy’n cael eu cefnogi i wneud eitemau ar gyfer Ffair Nadolig Hft, a fydd yn digwydd yn fuan. Roedd hyn yn cynnwys peintio coed Nadolig pren, sodro deunyddiau electronig, a glanhau geriau beiciau. Cynhelir y ffair yn Hwb Cyfle, Queensferry, CH5 1SA, ar 4 Rhagfyr, 12-4pm.

Dywedodd Jordan Smith, Rheolwr Rhanbarthol Hft Sir y Fflint:

“Rydym yn llawn cyffro o fod yn ail-lansio Abbey Upcycling fel prosiect ecogyfeillgar. Ailddefnyddir eitemau a fyddai fel arfer yn cael eu sgrapio neu eu taflu i safle tirlenwi, gan roi bywyd newydd iddynt. Mae’r bobl yr ydym yn eu cefnogi eisoes yn gweld y budd o gael dysgu sgiliau newydd, troi eu llaw at weithgareddau newydd, a chymryd balchder mewn gweld rhywbeth y maen nhw wedi gweithio arno yn dod â llawenydd i eraill. ’Rydym yn ddiolchgar iawn i’r Landfill Trust, sydd wedi rhoi grant i ni brynu offer a chyfarpar newydd, ac i Bewcraft Signs am fod mor hael â dylunio a rhoddi arwyddion newydd ar gyfer yr adeilad.” 

Dywedodd William Brown, prentis gweithiwr cymorth yn Abbey Upcycling:

“Roedd yn wych gweld wynebau newydd, ac yn fraint cael dangos iddynt pa mor galed mae’r bobl a gefnogir yma yn ei weithio, a’r sgiliau newydd maen nhw’n eu dysgu bob diwrnod.”   

Yn ôl un o’r bobl sy’n derbyn cefnogaeth:

“Mi aeth yn dda iawn ar y cyfan, ac mi oedd yn dda gweld yr ymwelwyr yn cymryd rhan.” 

Dywedodd Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint, y Cynghorydd Christine Jones:

“Mi wnaeth y gwasanaeth argraff arbennig arnaf i a Neil Ayling, Prif Swyddog y Gwasanaethau Cymdeithasol. ’Roedd yn wych cael siarad efo’r holl bobl yno, a chael gweld yr amrediad o sgiliau yr oeddynt wedi eu dysgu. Mae’n amlwg bod y rhai sy’n mynychu Abbey Upcyling wirioneddol yn ei fwynhau ac yn cael llawer o fudd o’u hamser yno. Yr oedd mor braf cael cyfarfod â’r tîm ymroddgar.”

Gwahoddir aelodau’r cyhoedd i ddod i weld yr hyn sydd ar gael. Mae Abbey Upcycling yn agored ddydd Llun i ddydd Gwener, 8:30-4pm, yn 1 Heinzel Park, y Fflint, y drws nesaf i Screwfix.