Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ffliw Adar

Published: 03/12/2021

Hoffai Tîm Iechyd Anifeiliaid Cyngor Sir y Fflint wneud cymunedau Sir y Fflint yn ymwybodol o’r risg cynyddol a gyflwynwyd gan Ffliw Adar. 

Gofynnir i bawb sy’n cadw adar a dofednod (boed yn ychydig ohonynt fel adar anwes neu’n filoedd o adar fel rhan o fusnes) i ddilyn y cyngor diweddaraf gan Lywodraeth Cymru a sicrhau eu bod yn cadw eu hieir dan do ac yn dilyn mesurau bioddiogelwch llym er mwyn amddiffyn eu hieir eu hunain a chyfyngu ar ledaeniad y clefyd. 

Mae’r clefyd yn cael ei gludo gan adar gwyllt sy’n mudo i’r Deyrnas Unedig o dir mawr Ewrop yn ystod y gaeaf a gall arwain at achosion mewn dofednod ac adar caeth eraill. 

Mae’r tîm yn dweud o ddydd Llun 29 Tachwedd 2021, mae’r Prif Swyddogion Milfeddygol ar gyfer Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi cytuno i gyflwyno mesurau newydd i gadw adar o dan do i amddiffyn dofednod ac adar caeth rhag ffliw adar. Mae hyn yn dilyn nifer o achosion a gadarnhawyd ar draws Prydain Fawr yn cynnwys yn lleol yn Wrecsam ac ar Ynys Môn yn yr wythnosau diwethaf.  

Mae’r mesurau newydd hyn i gadw adar o dan do yn golygu o ddydd Llun, 29 Tachwedd, mae’n ofyniad cyfreithiol i bawb sy’n cadw adar ar draws y Deyrnas Unedig i gadw’r holl ddofednod ac adar caeth o dan do ac mae’n rhaid i bob ceidwad barhau i gymryd rhagofalon ychwanegol i gadw eu hieir a dofednod yn ddiogel.  Mae hyn yn cynnwys glanhau a diheintio offer, dillad a cherbydau yn rheolaidd pan fyddwch yn mynd i mewn neu’n gadael safleoedd a chyfyngu ar fynediad i weithwyr neu ymwelwyr nad ydynt yn hanfodol.

Mae’r tîm yn cefnogi cyngor Llywodraeth Cymru bod angen i’r holl geidwaid gymryd camau i ddiogelu lles anifeiliaid, ymgynghori â’u milfeddyg am gyngor a gosod cytiau/siediau ychwanegol lle bo angen i amddiffyn eu hadar rhag y clefyd. 

Nid yw Ffliw Adar yn gysylltiedig â’r pandemig COVID-19 o gwbl, a achoswyd gan y firws SARS-CoV-2 ac nid yw’n cael ei gludo mewn dofednod neu adar caeth.   

Cyngor iechyd cyhoeddus yw bod y risg o’r firws ffliw adar i iechyd dynol yn isel iawn ac mae Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru yn dweud bod ffliw adar yn peri risg diogelwch bwyd isel iawn i ddefnyddwyr y Deyrnas Unedig.  

Os bydd aelod o’r cyhoedd yn canfod unrhyw elyrch, gwyddau neu hwyaid marw neu wael, neu adar gwyllt marw eraill, fel gwylanod neu adar ysglyfaethus, dylent roi gwybod amdanynt drwy ffonio llinell gymorth Defra ar 03459 33 55 77.

Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd Sir y Fflint:

“P’un ai ydych yn cadw ychydig o adar neu filoedd ohonynt, gofynnwn i bawb sy’n cadw adar i gymryd y camau priodol i gadw eu hadar ar wahân i adar gwyllt er mwyn eu hamddiffyn rhag y clefyd hynod heintus hwn.  Mae amddiffyn iechyd, diogelwch a lles yn flaenoriaeth i’r cyngor ac mae hyn yn cynnwys iechyd a lles anifeiliaid hefyd.   Mae ein swyddogion eisiau helpu’r rheiny sy’n cadw adar i amddiffyn eu hanifeiliaid. Os ydych yn adnabod rhywun sy’n cadw adar, nad ydynt efallai yn ymwybodol o risg cynyddol Ffliw Adar, gofynnwn i chi ledaenu’r gair fel y gallwn gadw Sir y Fflint yn rhydd rhag y firws.”  

Cynghorir y rheiny sy’n cadw dofednod ac adar caeth i fod yn wyliadwrus o unrhyw arwyddion o’r clefyd yn eu hadar ac unrhyw adar gwyllt a gofyn am gyngor gan eu milfeddyg ar unwaith os oes ganddynt unrhyw bryderon. 

Gofynnir i’r rheiny sy’n cadw adar yng Nghymru sy’n amau bod gan aderyn y clefyd ffonio 0300 303 8268, ac yn Lloegr ffonio Llinell Gymorth Gwasanaethau Gwledig Defra ar 03000 200 301. Dylai ceidwaid ymgyfarwyddo gyda’r cyngor diweddaraf ar ffliw adar sydd ar gael ar wefan Llyw.cymru. 

Mae Cyngor presennol Llywodraeth Cymru i’r Rheiny sy’n Cadw Adar fel a ganlyn:

Mae’n rhaid i’r rheiny sy’n cadw dofednod bellach wneud y canlynol: 

  • Gwnewch yn siwr bod yr holl ddofednod ac adar caeth yn cael eu cadw ar wahân i adar gwyllt
  • Golchwch a diheintiwch eich dillad, esgidiau, offer a cherbydau cyn ac ar ôl dod i gysylltiad â dofednod ac adar caeth - os yw’n ymarferol, defnyddiwch ddillad amddiffynnol untro
  • Cyfyngwch ar symudiad pobl, cerbydau neu offer i’r ardaloedd lle cedwir dofednod ac adar caeth, i leihau halogiad gan dail, slyri a chynnyrch eraill, a defnyddiwch reolaeth fermin effeithiol.
  • Cadwch gytiau/siediau’r dofednod yn lân a’u diheintio’n barhaus
  • Cadwch gynnyrch diheintio ffres ar y crynodiad cywir ym mhob mynedfa ac allanfa cytiau/siediau’r dofednod a ffermydd 
  • Cyfyngwch ar gyswllt uniongyrchol ac anuniongyrchol rhwng dofednod ac adar caeth ac adar gwyllt, yn cynnwys gwneud yn siwr nad yw adar gwyllt yn gallu cael mynediad at fwyd a dwr
  • Bydd y mesurau newydd hyn ar gadw adar o dan do yn cael eu hadolygu’n gyson fel rhan o waith y llywodraeth i amddiffyn heidiau o adar.  Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ar wefan Llyw.cymru.