Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Asesiad o Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru ac Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad 

Published: 13/01/2022

Fis yma bydd gofyn i’r Cabinet gefnogi Asesiad o Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru ac Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad. 

Mae Asesiad o Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru yn ofyniad statudol ac yn asesiad o anghenion gofal a chefnogaeth y boblogaeth, gan gynnwys anghenion cefnogi gofalwyr.

Mae’r ddogfen wedi’i datblygu dan arweiniad Cydweithredfa Gwella Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol a Llesiant Gogledd Cymru, gyda gwybodaeth gan y chwe chyngor a’r bwrdd iechyd, a chefnogaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae’n rhaid i bob partner gymeradwyo’r ddogfen a'i chyhoeddi erbyn 1 Ebrill 2022.

Ym mis Mehefin 2022 bydd yn rhaid cyhoeddi Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad.  Mae’r ddogfen hon yn ddilyniant o’r Asesiad o Anghenion y Boblogaeth ac yn darparu asesiad o ddigonolrwydd gwasanaethau gofal a chymorth i ddiwallu anghenion a’r galw am ofal cymdeithasol, fel y nodir yn yr Asesiad o Anghenion y Boblogaeth, ac o sefydlogrwydd y farchnad ar gyfer gwasanaethau rheoledig sy’n darparu gofal a chymorth. 

Gyda’i gilydd fe ddylai’r ddwy ddogfen ddarparu darlun cynhwysfawr i’r rheiny sy’n comisiynu gofal a chymorth, ar lefel leol a rhanbarthol, o’r galw a’r cyflenwad presennol ac i’r dyfodol. 

Meddai’r Cynghorydd Christine Jones, Dirprwy Arweinydd (Partneriaethau) ac Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint:

“Mae'r adroddiad ar yr asesiad o'r boblogaeth wedi'i arwain gan ymgysylltu. Mae’r materion allweddol a’r themâu a nodir yn seiliedig ar adborth staff, sefydliadau partner, defnyddwyr gwasanaeth a’r cyhoedd er mwyn nodi anghenion strategol mewn perthynas â gofal a chymorth. 

“Mae Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint wedi cyfrannu at y ddogfen ranbarthol drwy ddarparu amlinelliad cynhwysfawr o’r gwasanaethau sydd ar gael i bob grwp o’r boblogaeth yn Sir y Fflint. Mae adborth lleol hefyd wedi’i ddarparu gan uwch aelodau o staff, timau staff ac unigolion ar yr hyn sy’n gweithio’n dda a’r hyn sydd angen ei wella.” 

Cam nesaf y prosiect yw defnyddio’r asesiad o’r boblogaeth i ddatblygu cynllun ardal ar gyfer y rhanbarth, a fydd yn cael ei ddatblygu a’i gyhoeddi yn 2023.