Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Diwrnod Recriwtio Agored Saica Flex

Published: 21/01/2022

Jobs_Welsh_AdobeStock_229293663.jpgYn galw pawb sy’n chwilio am waith! 

Oherwydd y cynlluniau ehangu, mae Saica Flex yn recriwtio fis yma. Mae yna amrywiaeth o swyddi ar gael, yn cynnwys swyddi Cymorthyddion Cynhyrchu Cyffredinol, Gweithwyr Warws a Gweithwyr Peiriannau Torrwr Craidd, yn ogystal â swyddi mwy arbenigol fel Technegydd Inc a Chynllunydd. 

Mae Saica Group yn darparu datrysiadau gweithgynhyrchu papur eildro, cardbord gwrymiog a deunydd pacio cynaliadwy yn ogystal â datrysiadau ar gyfer rheoli gwastraff ac adfer gwastraff.   

Mae’r digwyddiad recriwtio yn cael ei gynnal ddydd Iau 27 Ionawr rhwng 11am a 7pm yn Saica Flex, Uned 109 Tenth Avenue, Stad Ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy, CH5 2UA. Mae’n cael ei drefnu ar y cyd drwy raglen Cymunedau am Waith Cyngor Sir y Fflint a'r Adran Gwaith a Phensiynau. 

Hyn a hyn o lefydd sydd ar gael, felly cofrestrwch eich diddordeb rwan drwy anfon eich CV i: FLINTSHIRE.EATEAM@DWP.GOV.UK.