Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Setliad Dros Dro a Chyllideb Cronfar Cyngor

Published: 14/11/2016

Ar 15 Tachwedd bydd Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn ystyried adroddiad ar gyllideb cronfa’r Cyngor a’r setliad dros dro. Mae Sir y Fflint yn gyngor effeithlon ac arloesol, ond mae hefyd yn gyngor a ariennir yn isel ac felly dim ond ychydig o gyfleoedd a geir i bontior bwlch cyllido drwy arloesi lleol. Er gwaethaf hyn, mae Sir y Fflint yn perfformio’n gadarn o ran safon y gwasanaethau lleol y maen darparu, gan ddangos rhagoriaeth mewn gwasanaethau allweddol megis addysg a gofal cymdeithasol. Cydnabyddir Sir y Fflint yn genedlaethol fel cyngor arloesol o ran canfod atebion newydd sy’n gost effeithlon, yn gadarn ac yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Maer atebion hyn yn cynnwys sefydlu NEW Homes”, cwmni syn darparu cartrefi i bobl leol, a SHARP (Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol), a arweiniodd at godi tai cyngor newydd sbon yn y sir – sef y rhai cyntaf yng Nghymru ers cenhedlaeth. Mae’r Cyngor hefyd wedi sicrhau dyfodol cyfleusterau hamdden megis pwll nofio Cei Connah trwy sefydlu ateb rheoli yn y gymuned. Fodd bynnag, wrth i’r cyfleoedd i arloesi leihau, felly hefyd yr arian sydd ar gael. Mae tair rhan i’n strategaeth ariannu: 1. Y Cyngor yn cymryd cyfrifoldeb dros barhau i ddiwygio a moderneiddio gwasanaethau lleol - mae gofyn i bob gwasanaeth, ac eithrio addysg a gofal cymdeithasol, leihau eu cyllidebau 30% dros y tair blynedd nesaf. 2. Y Cyngor yn cymryd cyfrifoldeb dros ddefnyddio’r cyllid corfforaethol yn ddarbodus. 3. Y Cyngor yn pennu disgwyliadau realistig o ran yr hyn y gellir ei ddisgwyl gan Lywodraeth Cymru, ein prif ffynhonnell ariannu. Mae cynghorau yng Nghymru yn ddibynnol iawn ar grant gan y llywodraeth i ariannu’r hyn a wnânt. Yn fwy felly yng Nghymru nag yn Lloegr. Dyma pam, o fewn ein strategaeth dair rhan, yr ydym ni’n galw am fwy o ryddid gan Lywodraeth Cymru ir Cyngor fod yn entrepreneuraidd. Maer Cyngor wedi cynghori’n flaenorol am fwlch amcangyfrifedig o £14.4 miliwn yn y gyllideb ar gyfer blwyddyn ariannol 2017/18 Trwy gyfuniad o gynigion pellach i ddiwygio gwasanaethau, parhau â stiwardiaeth ariannol effeithiol a gwell setliad grant dros dro mae’r bwlch hwn bellach wedi gostwng i oddeutu £2 filiwn. Meddai Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Aaron Shotton: “Mae hwn yn gyfnod heriol i gynghorau lleol a Llywodraeth Cymru. Os ydym nin mynd i lwyddo i ganfod ein ffordd drwy hyn efo’n gwasanaethau lleol hanfodol yn dal yn un darn, yna mae ar gynghorau angen gweithion agos gydar llywodraeth - a dyna’n union yr ydym nin mynd i wneud er mwyn dod o hyd i atebion ar y cyd.” Ar hyn o bryd maer Cyngor yn cynnal cyfres o gyfarfodydd ymgysylltu âr cyhoedd. Mae pedwar digwyddiad llwyddiannus eisoes wedi eu cynnal, ond mae yna tri digwyddiad arall ar ôl ac rydym yn eich annog chi i’w mynychu. Y manylion yw: 14 Tachwedd: Ysgol Gynradd Sirol Sandycroft 15 Tachwedd: Ysgol Gynradd Sirol Brychdyn 21 Tachwedd: Ysgol Caer Nant, Cei Connah Bydd y cyfarfodydd yn cael eu cynnal o 6.30pm tan 8.30pm. Gallwch gofrestru ar-lein ar neu drwy ffonio ein llinell gofrestru ar 01352 701701 rhwng 9am a 5pm, ddydd Llun i ddydd Gwener. Ceir crynodeb on Strategaeth Ariannol Tymor Canolig ar ein gwefan ar dudalen Ein Sir y Fflint, Ein Dyfodol. Maer strategaeth hon yn canolbwyntio ar 2017/2018 sef y flwyddyn ariannol nesaf y mae arnom angen cynllunio ar ei chyfer. Yn yr un modd, rydym yn cadw llygad ar 2018/2019 a thu hwnt ac yn cynllunio ymlaen llaw mewn ffordd gyfrifol a chynaliadwy. Bydd y Cyngor yn cyhoeddi datganiadau pellach wrth i’r gyllideb gael ei chwblhau - gan gynnwys yr angen am fwy o gyllid ar gyfer Sir y Fflint fel rhan o ddiwygiad sector cyhoeddus a chyllid llywodraeth leol.