Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


 Sir Y Fflint yn lansio Canolbwynt newydd ar gyfer prentisiaid

Published: 07/02/2022

Trainee hub cy.pngMae Cyngor Sir Y Fflint yn nodi Wythnos Prentisiaethau Cymru gyda lansiad Canolbwynt Prentisiaethau ar-lein newydd. 

Cynhelir rhwng 7 a 13 Chwefror, mae Wythnos Prentisiaethau Cymru yn anelu i godi ymwybyddiaeth am yr ystod o gyfleoedd ar gael a manteision bod yn brentis. 

Mae Canolbwynt Prentisiaethau newydd Sir y Fflint siryfflint.gov.uk/Prentisiaethau yn cynnig ffynhonnell ganolog o wybodaeth i bobl sydd eisiau dysgu yn y gwaith, datblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau, cyflawni cymwysterau ac ennill arian, y cyfan ar yr un pryd.  

Mae gan Sir Y Fflint Raglen Brentisiaeth arobryn hir sefydledig a bob blwyddyn mae’n croesawu nifer o Hyfforddai newydd Sir y Fflint ar draws ystod o ddisgyblaethau, fel busnes a gweinyddu, TG, diwydiannau adeiladu, cynnal a chadw cerbydau a mecaneg.  

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid: 

“Mae ein cynllun prentisiaeth yn cael ei ystyried yn arfer gorau gyda dull sy’n arwain y sector.  Gellir gweld hyn yn ein canlyniadau.  Mae 95% o’r sawl sy’n dechrau prentisiaeth gyda Sir y Fflint yn derbyn canlyniad cadarnhaol.  Mae 75% yn derbyn swyddi gyda’r Cyngor, 15% yn mynd ymlaen i gael gwaith y tu allan i’r Cyngor a 5% yn defnyddio cymwysterau a enillwyd i fynd i’r brifysgol.  

“Mae’n sefyllfa ble mae yna fanteision i bawb.  Mae’r Cyngor yn elwa o gyfoeth o syniadau ac egni newydd ac mae prentisiaid yn cael datblygiad gwych a dechrau cadarn i’w gyrfa.   Mae rhai sydd wedi dechrau fel prentis bellach yn reolwyr gwasanaeth.”

Bydd y Cyngor yn recriwtio ar gyfer derbyn prentisiaid 2022 yn ystod y gwanwyn.  Bydd yr hysbyseb allan ganol Mawrth ond mae pobl yn gallu cofrestru eu diddordeb nawr ar Ganolbwynt Prentisiaethau newydd y Cyngor ar-lein.