Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2022/23 a Chynllun Busnes

Published: 11/02/2022

Ddydd Mawrth, 15 Chwefror, bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint gymeradwyo cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2022/23 a Chynllun Busnes Ariannol drafft 30 mlynedd y Cyfrif Refeniw Tai. 

Mae Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai yn cynnwys atgyweirio a chynnal cartrefi’r Cyngor, gwaith gwella gan gynnwys gwelliant amgylcheddol, rheoli cymdogaeth gan gynnwys mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, gofalu am ystâd, casglu incwm a chyfranogiad cwsmeriaid ar gyfer ei 7,300 o gartrefi Cyngor, hefyd mae'n cynnwys rhaglen adeiladu tai cyngor uchelgeisiol. 

Yr opsiwn a argymhellwyd ar gyfer rhenti yn 2022/23 fyddai rhoi codiad cyffredinol o 1.18% i bob tenant, ac yn ychwanegol, rhoi codiad pontio o £2 i denantiaid sy’n talu o leiaf £3 o dan y targed rhent. Mae hyn yn gyfwerth â chynnydd rhent cyffredinol o 2%.

Mae disgwyl i renti garejis gynyddu 20c yr wythnos i £10.23 yr wythnos (yn seiliedig ar 52 wythnos). Mae disgwyl i’r rhent am ddarn o dir ar gyfer garej gynyddu 3c yr wythnos gan fynd ag o i £1.66 yr wythnos.

Mae polisi rhent a thâl gwasanaeth Llywodraeth Cymru yn disgwyl i bob landlord cymdeithasol gyflawni’r gost lawn.  Mae Sir y Fflint wedi bod yn gweithio tuag at hyn.  Fodd bynnag, ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, yr un fath â’r un ddiwethaf, cynigir rhewi costau gwasanaeth.  Bydd hyn yn diogelu tenantiaid sy’n wynebu anhawster ariannol o ganlyniad i Covid-19.

Mae’r cyd-destun ar gyfer gosod cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai eleni yn cynnwys:

• Sicrhau bod fforddiadwyedd i’n tenantiaid yn greiddiol i’n hystyriaethau

• Ymdrech barhaus i sicrhau bod yr holl gostau gwasanaeth yn effeithlon ac y gellir cyflawni gwerth am arian

• Sicrhau bod y strategaeth rheoli'r trysorlys yn parhau i fodloni gofynion benthyca newydd a pharhaus y Cyngor

• Gosod cyllideb fantoledig gydag o leiaf 4% o refeniw dros ben dros wariant

• Gwneud y mwyaf o effeithlonrwydd refeniw er mwyn lleihau'r benthyca sy'n ofynnol i gyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru 

• Adeiladu tai Cyngor newydd 

• Ymdrech barhaus i sicrhau bod cartrefi yn effeithlon o ran ynni ac edrych ar ddatgarboneiddio

• Darparu cyfalaf parhaus digonol i gynnal lefelau Safon Ansawdd Tai Cymru

Meddai’r Cynghorydd Dave Hughes, Aelod Cabinet Tai Cyngor Sir y Fflint:

“Mae ychydig dros £17.2 miliwn wedi ei ganiatáu ar gyfer y rhaglen gwella tai cyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2022/23, mae hyn yn cynnwys rhaglenni amgylcheddol, addasiadau ar gyfer bobl anabl a gwaith arbed ynni. 

“Yn ogystal, mae yna ychydig dros £7.8 miliwn ar gael ar gyfer cynlluniau adeiladu tai’r Cyngor i sicrhau bod mwy o dai cyngor yn cael eu hadeiladu.  Gyda’i gilydd mae’r rhaglenni gwaith hyn yn gyfwerth â chyfanswm buddsoddiad o dros £25 miliwn.”