Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


A fyddech chi’n gallu bod yn gynghorydd?

Published: 21/02/2022

AdobeStock Election tick.jpegCynhelir etholiadau lleol yn Sir y Fflint ym mis Mai eleni er mwyn ethol 67 o Gynghorwyr Sir a thros 400 o Gynghorwyr Tref a Chymuned - a fyddech chi’n gallu bod yn un ohonyn nhw?

Mae bod yn gynghorydd yn brofiad sy’n rhoi llawer o foddhad. Mae’n rhoi cyfle i gynrychioli’ch cymuned leol a byddwch yn helpu i benderfynu sut y caiff gwasanaethau lleol eu darparu, eu hariannu a’u blaenoriaethu. 

Mae’r holl gynghorau wedi llofnodi addewidion Cyngor Amrywiol cyn yr etholiadau ac mae Sir y Fflint yn ymroddedig i annog a chefnogi mwy o bobl amrywiol i sefyll yn yr etholiad. Mae angen mwy o gynghorwyr sy’n bobl dan 40 oed, menywod, pobl anabl, pobl LGBTQ+, pobl Ddu neu Asiaidd neu o grwpiau lleiafrifol eraill ac sydd ag amryw o gredoau, diwylliannau ac amgylchiadau personol. Yn gryno, mwy o gynghorwyr sydd yr un mor amrywiol â’r cymunedau y maent yn eu cynrychioli. 

Dywedodd Swyddog Canlyniadau Sir y Fflint, Neil Cockerton:

“Rydym yn annog cynghorwyr newydd i ymuno a rhannu eu syniadau a’u brwdfrydedd er mwyn gwella a chryfhau ein Cyngor.  Gallwn gynnig cymorth ychwanegol os oes gennych deulu ifanc neu gyfrifoldebau gofalu - gan gynnwys cymorth ariannol ychwanegol a threfniadau gweithio hyblyg.” 

Fel Cynghorydd, byddai disgwyl i chi fynychu holl gyfarfodydd y pwyllgorau neu grwpiau yr ydych wedi’ch penodi arnynt, yn ogystal â threulio amser yn eich cymunedau.

Cewch gefnogaeth gan y Cyngor pan gewch eich ethol.  Mae Sir y Fflint yn rhedeg rhaglen gyfeiriadu i aelodau newydd er mwyn dangos ble mae popeth a phwy yw pawb.  Yna maent yn cael rhaglen gynefino i’w helpu i ddeall eu rôl, gweithdrefnau’r cyngor a’r sgiliau ymarferol sydd eu hangen arnynt. Darperir hyfforddiant parhaus yn unol â’ch anghenion.  A byddwch yn cael cyflog sylfaenol (£14,368 yn 2021/22) yn ogystal â lwfansau teithio. Os byddwch yn ymgymryd â chyfrifoldebau ychwanegol, megis bod yn aelod o’r cabinet, byddwch yn cael taliad ychwanegol.

Diddordeb?  Am fwy o wybodaeth, edrychwch ar ein Canolbwynt Etholiadau ar siryfflint.gov.uk/etholiadau neu ffoniwch  01352 702329.

Sesiynau briffio ar-lein – Byddwn yn cynnal sesiynau briffio ar-lein gyda hyn ar gyfer pobl sydd â diddordeb mewn sefyll yn etholiadau mis Mai 2022. Bydd y sesiynau’n cael eu cynnal:

Dydd Mawrth 8 Mawrth - 5.30pm tan 6.30pm

Dydd Iau 10 Mawrth - 5.30pm tan 6.30pm

Bydd y ddwy sesiwn yn cael eu cynnal ar-lein ar Zoom. I gadarnhau eich presenoldeb ac am fwy o wybodaeth ynglyn ag ymuno â sesiwn, anfonwch neges i: register@flintshire.gov.uk.