Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


TripAdvisor Parc Gwepre

Published: 08/07/2014

Mae ymwelwyr â Pharc Gwepre wedi rhoi sgôr uchel i’r atyniad lleol ar TripAdvisor, gwefan deithio fwyaf y byd. Mae adolygiadau gwych wedi golygu bod y parc gwledig yng Nghei Connah wedi derbyn Tystysgrif Rhagoriaeth 2014 gan y wefan, a sgôr pedair seren a hanner. Un atyniad syn ffynnu yng Ngwepre ywr cerflun pridd o Fadfall Ddwr Gribog. Fe’i crëwyd y llynedd gan y ceidwad cefn gwlad Tim Johnson gyda chymorth y contractwr lleol Arwyn Parry, ac mae’r fadfall ddwr fawr wedi ei cherflunio o bridd dros ben o brosiect draenio. Penderfynodd y ceidwaid ar fadfall ddwr gan fod Parc Gwepre yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ar gyfer y rhywogaeth sydd mewn perygl. Mae hadau blodau gwyllt a blannwyd yn y cerflun pridd wedi aeddfedu ac maer fadfall yn blodeuo gyda phabi, penlas yr yd a llygad y llo mawr. Gellir ei weld ger y cae pêl-droed top, ar flaen y parc. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd: “Maer cerflun wedi symud ymlaen ers y llynedd pan oedd yn edrych yn drawiadol fel pridd yn unig. Nawr bod y planhigion wedi tyfu mae’n hafan o flodau gwyllt ac yn werth ymweld â ef. Maer sgôr gan TripAdvisor yn brawf bod gennym nifer o atyniadau gwych yn Sir y Fflint sy’n werth sôn amdanynt!” Am fwy o wybodaeth am Barc Gwepra ffoniwch y ganolfan ymwelwyr ar 01244 814931. Photo caption 1: Y cerflun pridd o fadfall ddwr y llynedd. Photo caption 2: Blodau wedi agor ar gerflun y fadfall yr haf hwn.