Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Clwb Swyddi yn lansio yn yr Wyddgrug

Published: 10/11/2016

Bydd Clwb Swyddi yr Wyddgrug yn cynnal eu sesiwn gyntaf ddydd Mercher 30 Tachwedd yn Llyfrgell yr Wyddgrug rhwng 10am a 12 hanner dydd. Maer Clwb yn cael ei gynnal gan Gymunedau yn Gyntaf Sir y Fflint ac mae’r lansiad hwn yn dilyn llwyddiant y clybiau swyddi, a gefnogir hefyd gan Gymunedau yn Gyntaf, yn Llyfrgell Treffynnon, Cei Connah, a’r Fflint, Campws Cymunedol John Summers a Chyngor ar Bopeth Cei Connah. Maer Clwb yn agored i unrhyw un a gallwch alw heibio a chael: · Cymorth a chefnogaeth i chwilio am swyddi a gwneud cais · Cyngor gyda CVs a chyfweliadau · Cyfle i ddarganfod pa gyfleoedd dysgu a gweithgareddau sydd ar gael yn yr ardal, a · Gwybodaeth am yr asiantaethau cefnogi Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Ddatblygu Economaidd: “Mae Cymunedau yn Gyntaf yn Sir y Fflint yn parhau i weithion galed ar draws y sir i roi cymorth ir rhai sydd angen help wrth iddynt chwilio am gyflogaeth addas yn y farchnad swyddi heddiw. Byddwn yn annog pobl i alw heibio a gweld beth sydd gan y clwb swyddi yn yr Wyddgrug iw gynnig. I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch Teresa Allen ar 01244 846090.