Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Dim gwaith ffordd ar briffyrdd y Cyngor dros dymor y gwyliau

Published: 16/11/2016

Bydd Cyngor Sir y Fflint unwaith eto yn gwneud popeth yn ei allu i sicrhau bod rhwydwaith ffyrdd Sir y Fflint yn cael ei gynnal yn effeithiol a heb oedi mawr yn ystod tymor y gwyliau. Er mwyn cyflawni hyn, rhoddir embargo ar yr holl waith di-argyfwng o Ddydd Gwener 2 Rhagfyr tan ddydd Mawrth 3 Ionawr 2017, a bydd yn effeithio ar yr holl brif lwybrau yn y sir yn ogystal â chanol trefi. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros yr Amgylchedd: “Gan fod yna gynnydd sylweddol mewn traffig yn ystod pob gwyliau, rydym wedi penderfynu unwaith eto i atal yr holl waith ffordd ar y prif lwybrau i osgoi tagfeydd cynyddol yn ein trefi a’r ardaloedd cyfagos. Rydym yn gweithion agos gyda chwmnïau cyfleustodau er mwyn sicrhau bod gwaith yn cael ei gwblhau cyn yr embargo, fodd bynnag, caiff unrhyw gynlluniau mawr heb eu cwblhau erbyn 2 Rhagfyr eu gohirio tan 3 Ionawr 2017.”